Defnyddiwyd y safle hwn fel man addoli ers y flwyddyn 560 O.C. pan ffurfiwyd cymuned fynachaidd yma gan Sant Cyndeyrn, Esgob Ystradclud (neu Sant Mungo) yn yr Alban.
Ei olynydd fel Esgob yn 570 O.C. oedd Asaph a rhoddodd ei enw i'r ddinas a'r esgobaeth.
Y mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13 a'r 14 ganrif ac mae'r bensaernïol syml yn urddasol a thawel.
Ffenestri Lliw:
Dinistriwyd y ffenestri lliw hynafol yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr 17 ganrif. Y mae'r ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o 1864 er cof am Mrs Felicia Hemans - awdures 'The boy stood on the burning deck.'
Y mae'r ffenestr orllewinol er cof am Archesgob cyntaf Cymru, A.G. Edwards, a fu'n Archesgbob o 1920 hyd 1934 a sydd wedi ei gladdu yn Llanelwy. Mae ffenestr liw arall yn coffau teuluoedd y rhai a fu'n cynorthwyo gydag adfer y Gadeirlan yn yr 18fed ganrif.
To:
Y mae'r to hwn yn fwy diweddar na gweddill yr adeilad ac fe'i hadferwyd ym 1968.

Bwâu a'r Pileri:
Y mae'r rhain yn syml ac yn arw eu cynllun. Noder y pileri a ffenestri'r nenfwd sy'n dyddio o 1403.
Y fedyddfan:
Dinistriwyd hon yn ystod y Rhyfel Cartref ac fe'i defnyddiwyd ar y pryd fel cafn dwr ar gyfer ceffylau milwyr Cromwell. Erbyn hyn fe'i hadferwyd yn gyfan gwbl.
Y Gist Haearn:
Dyma waith y gof nodedig, Robert Davies o Groes y Foel ger Wrecsam, ac mae'n dyddio o 1738. Ar un adeg fe'i defnyddiwyd i gadw llestri'r Eglwys ond yn awr fe'i defnyddir fel cist i dderbyn rhoddion ymwelwyr.
Y Pulpud:
Daw'r pulpud o'r 19fed ganrif ac ma'n coffau y cyn esgob - Vowler Short (1846-1870) ac mae ei fedd ger y drws gorllewinol.
Cofgolofnau (ar yr ystlys dde):
Does dim gwybodaeth am y llechfaen coffaol hwn ond gwelir llechfaen gyda choffhad tebyg yn Abaty Glyn y Groes ger Llangollen. Cyfeiria'r delw orweddog at yr Esgob Anian II (Esgob Llanelwy 1268-1293).
Ef a adeiladodd y Gadeirlan wedi iddi gael ei dinistrio gan filwyr Edward I. Heb fod ymhell i ffwrdd gwelir coflech o waith Jonah Jones er cof am HM Stanley - a hanai o Sir Ddinbych, ac ef a ganfu Dr Livingstone yn Affrica.
Y Presbyteri:
Ar yr ochr ddeheuol gwelir cadair yr Esgob sydd hefyd yn gofeb i'r Esgob Beveridge. Y mae'r seddau cerfiedig cain yn dyddio o 1482.
Sylwer ar wyneb ar un ohonynt (ar yr ochr ddeheuol) efallai mai wyneb y Pen Cerfiwr yw. O dan Gadair yr Esgob y mae man claddu'r Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg yn 1588 ac Esgob Llanelwy 1601-1604. Adferwyd y rhan yma gan Gilbert Scott yn 1869-1875.
Y Reredos (y tu ôl i'r Brif Allor):
Gwaith o'r 19fed Ganrif a wnaed o Alabastr o Swydd Derby. Sgrîn neu addurn tu ôl i'r allor mewn eglwys yw'r reredos.
Capel y Cyfieithwyr:
Capel er cof am y dynion a fu'n gyfrifol am gyfieithu'r Ysgrythur i'r Gymraeg yn 16 a 17 ganrif.
Y Groes Ddeheuol:
Yn dyddio o 1336. Mae llun o'r Forwyn Fair arno, ac efallai wedi'i ysbeilio yn ystod y frwydyr gydag Armada Sbaen. Mae cilfach yn y mur - dyma'r Drysorfa. Bydd y Groes Ddeheuol a'r Drysorfa yn cynnwys arddangosfeydd dros dro yn ystod y flwyddyn.
Y tu allan i'r Eglwys Gadeiriol:
Sylwer fod dau fath o garreg wedi eu defnyddio. Carreg galch o chwareli Cefn a thywodfaen wedi ei naddu yn Fflint neu Dalacre.