Yn ystod y 16eg ganrif chwaraeodd William Morgan, a fu yn ddiweddarach yn Esgob Llanelwy o 1601 hyd at 1604, ran hollbwysig mewn sicrhau parhad y Gymraeg, trwy dreulio blynyddoedd yn cyfieithu'r Beibl.
Nid ef oedd yr unig gyfrannwr i'r gwaith, ond ei enw ef a gysylltir yn bennaf gyda'r digwyddiad pwysig hwn.
Pasiwyd Deddf Seneddol yn 1563 i ganiatáu cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg oherwydd nad oedd mwyafrif trgolion Cymru yn deall Saesneg.
Yn ystod yr amser y bu William Morgan yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (1567-1571) yn ennill ei B.A. ac M.A. yr oedd yr Esgob Richard Davies a William Salesbury wedi cyfieithu a chyhoeddi'r Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Cyffredin.
Erbyn 1578 yr oedd Davies a Salesbury wedi ffraeo ynglŷn â'u gwaith ac anogwyd Morgan, a oedd erbyn hyn yn Rheithor Llanrhaeadr-Ym-Mochnant yn Nyffryn Tannant i ymgymryd â'r gwaith gan Esgobion Llanelwy a Bangor.
Enillodd ei Ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth yn 1583, ac yn 1587 aeth i Lundain i arolygu argraffu'r Beibl Cymraeg cyntaf.
Yr oedd hwn yn cynnwys ei gyfieithiad ef ei hun o'r Hen Destament a fersiwn diwygiedig o Destament Newydd Salesbury. Talwyd am gost y cyhoeddi gan Archesgob Whitgift ac Archesgob Caergaint.
Tra bod Morgan yn Llundain, arhosodd gyda Gabriel Goodman, Deon San Steffan, un o feibion enwog tref Rhuthun.
Yn 1588, y flwyddyn pan drechwyd Armada Sbaen, argraffwyd 800 o gopïau o'r Beibl Cymraeg, gyda Dr Morgan ond yn 41 oed.
Cyn ei benodiad yn yn Archesgob yn Llanelwy yn 1601, bu'n offeiriad yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, ond bu'n gyfnod cythryblus.
Daeth mor amhoblogaidd gyda'r plwyfolion fel y bu rhaid i was arfog ei dywys i'r egwlys ac oddi yno.
Bu'n rhaid iddo draddodi ei bregethau gyda phistol yn ei wregys, ac ar un adeg bu gwarchae ar y ficerdy.
Fodd bynnag, er bod yn Esgob Llanelwy, bu farw William Morgan yn ddyn tlawd ar y 10fed o Fedi 1604, yn 57 oed yn y palas adfeiliedig. Claddwyd ef y dydd canlynol yn yr Eglwys Gadeiriol o dan y Brif Allor ger safle presennol cadair yr Esgob.
Mae copi o Feibl Cymraeg William Morgan i'w weld yn yr Eglwys Gadeiriol.