ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dyn ym ymolchi yn yr afon Goroesi'r Sesiwn Fawr
Sut le yw Sesiwn Fawr Dolgellau go iawn? Dyma sylwadau rhai oedd wedi bod yn gweithio a mwynhau yn yr ŵyl yn 2008.

Beth ydych yn feddwl o'r Sesiwn Fawr?

Sally o Lanberis: 'Rydym yn poeni na fydd yna Sesiwn Fawr flwyddyn nesaf - byse hynny'n ofnadwy. Dwi wedi bod yn dod yma ers blynyddoedd efo'r plant, ac yn mwynhau'n fawr.

John o Benisarwaun: Mae'n lot o sbort, fel un sy'n newydd i'r ŵyl. Mae wedi trefnu'n dda ar gyfer pobl mewn cadair olwyn hefyd, er dwi wedi cael trafferth parcio yn y dref, efallai oherwydd bod yr ŵyl ar y maes parcio.

Mi wnes i ddod lawr o'r maes pebyll ar y beic quad ddoe, ond yn anffodus roedd yn rhy fwdlyd bore 'ma.

Sue o Gwm y Glo: Nid oes yna bobl feddw, fygythiol yma na dim - mae yn awyrgylch braf. Hefyd, does dim rhaid poeni a fydd eich pethau yn eich pabell yn saff. Mae'n grêt.

Lee o Abertillery - rhan o'r tîm diogelwch: Mae gweithio yma wedi bod yn brofiad gwych. 'Da ni wedi gorfod lluchio cwpwl o bobl allan am actio'n wirion, ond rili mae'n ŵyl ac mae pawb yn mwynhau.

Esyllt o Lanuwchllyn - gwirfoddolwr: Dwi wedi bod yn gwirfoddoli yn y Sesiwn ers 17 mlynedd! Mae o wedi newid ers iddo symud o'r sgwâr - mae o lot fwy rŵan, ond dwi dal i fwynhau. Fy atgof gorau i oedd Jazz Jamaica ar y sgwâr un flwyddyn - roedd o'n wych.

Kevin o clwb y BleiddiaidKevin o Dalysarn: Roeddwn yn mwynhau'r Sesiwn ar y sgwâr gan fod pawb yn agosach at ei gilydd, er dwi'n dallt y rhesymau i'w symud i'r Marian - ei bod yn saffach a phopeth.

'Da ni fel grŵp beicio'r Bleiddiaid wedi dod am ddiwrnod bach allan heddiw. Gan fy mod ar y beic, dim ond un peint ga'i.

Elin o Morfa Nefyn: Dwi'n hoffi'r ffaith fod lot o Gymry'n dod at ei gilydd - mae'n gyfle gwych i weld hen ffrindiau. Mae'n hefyd cyfle i wrando ar gerddoriaeth wahanol o dros y byd, ynghyd a miwsig Cymraeg hefyd. Mae yna naws arbennig i'r Sesiwn.

Mae'n achlysur - dwi'n edrych ymlaen pob flwyddyn i'r gwahanol arlwy sydd ar gael yma.

Dylan o Drawsfynydd: Dwi yma efo'r plant ac mae'n dda iawn, os yw'r tywydd yn braf. 'Da ni heb symud o gylch bach cae'r plant am dair awr - mae yna beintio wynebau, gwneud anifeiliaid allan o balwn, castell bownsio, sioe pypedau a miwsig yn y babell ddawns.

Beth am y cerddoriaeth?...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý