ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goroesi'r Sesiwn Fawr

Lee a Gareth o'r tim DiogelwchBeth am y gerddoriaeth?

Ted o Gwm y Glo: Os ydych yn hoff o gerddoriaeth, mae'r artistiaid yma yn wych. Nid oes yna ŵyl mor dda â'r Sesiwn. Mae'r miwsig o ledled y byd gwir yn atyniad, yn ogystal â'r bandiau lleol rydym yn ei hadnabod gan eu bod yn chwarae yn ein tafarn ni!

Mae tocyn ar gyfer dydd Sadwrn gwerth yr arian mwy na'r nos Wener efallai gan fod yna gymaint o ddewis ar y llwyfannau, yn y theatr a ThÅ· Siamas.

Gareth o Aberystwyth - ar y tîm diogelwch: Dwi rili wedi mwynhau'r miwsig gwahanol. Dwi wedi dysgu am bobl nad oeddwn yn gwybod am o'r blaen, ac am fynd adref i lawr-lwytho eu cerddoriaeth!

Gethin o fand y Genod Droog: Dwi wedi bod yn lwcus i chwarae ar y llwyfan Cyfle a'r ddau lwyfan mawr. Mae llwyfan Cyfle yn werth mynd i'w weld - mae'r cwrw yn rhatach yn y clwb rygbi ac mae'n cymryd lot llai o bobl i greu awyrgylch da. Mae yna buzz yna efo jest cant o bobl, ac mae'r bandiau newydd yn grêt!

Dilwyn o'r Genod Droog: Mae yna ddigon o le yng Nghymru am lot o wyliau, sy'n beth da - 'da ni ddim eisio'r un bandiau yn troi fyny ym mhob un. Mae'r Sesiwn yn grêt - llawn o gerddoriaeth draddodiadol, canol y ffordd, miwsig o dros y byd a Chymreig.

Beth am y bwyd?

John, Sue, Sally a Ted yn NolgellauSue: Cymerwch frecwast da yng nghaffi'r Sosban a mi fyddwch yn iawn am y diwrnod!

Elin: Dwi'n hoff iawn o gael profi bwyd tramor yma, a byrgar cig eidion canol nos!


Unrhyw bethau wedi mynd o'i le yn ystod y Sesiwn?

Sally: Ddaru fy merch brifo ei ffêr yn wael unwaith, ond roedd y trefnwyr a'r bobl yn y babell cymorth cyntaf yn ffantastig. Mi gawsom ni rhywle i barcio reit wrth y maes a ddaru Archie o'r maes pebyll rhoi ffon cerdded iddi!

Ddaru fy merch joio'r sylw wrth i bob aelod o'r Derwyddon Dr Gonzo mynd a hi i'r St John's!

Esyllt: Lot fawr, ond glaw llynedd oedd y gwaethaf! Roedd o'n fwd i gyd, yn enwedig y tu ôl i'r llwyfan lle da ni ar y glaswellt. Nid oedd yn bosib mynd trwy ddrws y babell bwyd a diod nes i ni roi gwair i lawr! Y gwirfoddolwyr a'r artistiaid sy'n cael hi'n waethaf yn y glaw!

Elin: Mi ges i babell wlyb, socian yn 2006 ar ôl i'r drws agor rhywbryd yn ystod y dydd!

Lle i gysgu a goroesi'r glaw...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý