ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Elin Fflur  Elin Fflur ar y ffordd
Cyfle i ddarllen ambell sylw gan Elin Fflur ar ei thaith haf gyda'i band dros yr haf.
7 Gorffennaf 2004 - Sumai? Wel, dwi wedi bod ar daith ers pum wythnos bellach a coeliwch chi fi dydi'r bywyd roc a rôl ddim yn fêl i gyd!

O fewn wythnos i ddechrau'r daith mi wnes i ddiodde o laryngitis a taro fy nghoes ar fan SAIN tu allan i Venue, Rhuthun - peth anodd ydi anwybyddu gwaed yn llifo lawr fy nghoes tra'n ceisio perfformio i 500 a mwy o gynulleidfa llon!

Ond er hyn i gyd dwi wrth fy modd yn teithio o un lleoliad i'r llall, cwrdd â phobol gwahanol bob nos. Mae'r profiad o berfformio o flaen cynulleidfa wresog yn un cynhyrfus a chyffrous iawn, s'nam byd gwell! Mae'r buzz yn 'adictif'!

Ers dechrau'r daith yn 'steddfod yr Urdd, mae'r band (sef Nathan Owen - gitâr, Deian Elfryn - dryms a Siôn Llwyd - gitâr fas, allweddellau a llais cefndir - sydd wedi bod o gymorth mawr efo'r nodau uchel!) a finne wedi teithio o'r Bala i Bontypridd gan ymweld â nifer o leoliadau ar y ffordd! Mae pob lleoliad wedi bod yn wych efo'r gynulleidfa yn ymateb yn grêt, felly diolch yn fawr os oeddech chi yno yn rhywle!

Yr wythnos yma rydym yn ymweld â nifer o ysgolion yn y gogledd er mwyn annog pobl ifanc Cymru i ymddiddori yn y byd canu roc Cymraeg - hefyd mae'n ddiwedd tymor ac yn esgus da am barti cyn dechrau ar y gwyliau ha'!

Sôn am barti, wel ges i brofiad anhygoel nos Wener dwytha'! Canu deuawd gyda'r anhygoel Huw Chiswell (ie, yr hync yn Ibiza! Ibiza! - dydi o heb newid dim!). Cofi Roc, Caernarfon, oedd y lleoliad ac roedd C2 yn recordio'r noson ar gyfer darllediad yn hwyrach yn y flwyddyn - thema'r darllediad oedd cyd-berfformio (y Brits Cymraeg!)

Mi wnes i berfformio cân newydd gan Acoustique gyda Lleuwen Steffan, daeth Lleuwen a finne i'r llwyfan yn ystod set Huw Chiswell i berfformio dwy gân oddi ar ei albwm newydd 'Dere Nawr' ac yna daeth Huw i'r llwyfan i berfformio 'Llwybr Lawr i'r Dyffryn' efo fi a'r band! Noson wych, y lle'n orlawn!

Yr unig downar oedd gwybod bod rhaid i mi godi am 6:30 y bore wedyn i fynd lawr i Barti Ponty! Ond o leia' ges i gyfle i gysgu yng nghefn y fan ar y ffordd lawr!

O ia! Mae Alun Tan Lan yn deud helo, ac yn gofyn i chi gadw'ch clustiau'n 'gored am draciau oddi ar ei albwm newydd 'Aderyn Papur'.

Hwyl am y tro!

Elin Fflur

Darn nesaf ...

  • 30 Mehefin - dechrau'r daith
  • Dyddiadau'r daith

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý