ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Olwen Meredith Nadoligau a fu
Dyma Olwen Meredith o glwb Merched y Wawr, Bangor i rannu ei hatgofion hi am y plygain a hel calennig.
"Dwi'n meddwl fod plygain yn golygu 'caniad y ceiliog'.

"Roedd yna blygain yn y pentref ger ein pentref ni, Cnwch Coch yng Ngheredigion yng nghyfnod y rhyfel, yn Llanfihangel-y-Creuddyn. Roeddent yn cynnal y plygain am bump o'r gloch y bore, a byddai pobl ifanc ein pentref ni yn codi ryw bedwar y bore ac yn cerdded milltir i'r cwrdd.

"Ddaru nhw addo y byswn i'n cael mynd y flwyddyn nesaf, pan roeddwn yn deng mlwydd oed - ond erbyn hynny roeddwn wedi gadael fy nain a fy nhaid i fynd i Lundain, a ches i erioed fynd i'r plygain.

"Ond Calenig oedd ein diwrnod mawr ni. Byddai plant y pentref i gyd yn mynd o gwmpas yn canu cân y Calenig, rhywbeth fel 'Calenig gyfan, a heddiw'n ddydd calan, unwaith, dwywaith, tair...'

"Byddem yn mynd o amgylch y tai, yn hel arian gan gymdogion caredig!"

Roedd cantorion o fri yn dod i ddathlu ym Mhenmaenmawr, yn ôl Beryl Williams.

"Roedd yna gyngerdd bob noson Nadolig ym Mhenmaenmawr, un mawreddog yn y Capel Wesleaidd. Byddai David Lloyd, Henryd Jones, Mary Jones Llanfairfechan a'r gontralto Evelina Williams i gyd yn canu - roedd yn ardderchog.

"Yn y dydd, byddwn yn gwneud pethau digon cyffredin fel chwarae monopoli, lexicon neu efallai wist.

"Byddem yn mynd i hel calennig ym Mhenmaenmawr hefyd."

Jennifer a Beryl Dyma Jennifer i roi blas ar ddathliadau Llan Ffestiniog.

"Byddem yn cael gŵyl nos Calan tan yr hwyr - mae eraill yn ei alw'n 'swari', yn 'watchnight' neu yn gwrdd calan

"Yna, mynd rownd Tanygrisiau'r diwrnod ar ôl y Nadolig, rhai yn pwshio pram neu'n reidio beic - roedd yn amser heddychlon iawn.

"Mi ges i bram gan Santa Clôs un Nadolig. Yn ddiweddarach mi wnes i ddallt bod y pram yn ail law gan fy ewythr ym Manceinion! Dwi ddim yn siŵr o ble ddaeth y ddoli efo pen china a chorff meddal, ond byddai breichiau plastig Sali druan yn malu a byddai'n rhaid iddi fynd at y gof yn y chwarel i gael ei thrwsio!"

Enfys Jones Roedd miri mawr ym Minffordd, yn ôl Enfys.

"Dwi'n cofio deffro bore Nadolig, symud yn y gwely a chlywed y papur yn symud: 'Mae o wedi dŵad!' Methu'n glir dod â nhw allan o'r gobennydd yn ddigon buan i weld be oeddwn i 'di gael - oren, afal, cnau a 'Californian Poppy' - sent neis! Ac arian siocled mewn papur arian, roedd yn rhaid eu hongian nhw ar y goeden ar ôl codi a chofio pwy oedd biau p'run, a gofalu nad oedd fy mrawd neu fy chwaer yn bwyta fy mwyd i!

"Mae'r rhwydan bach o gelyn oedd gen i yn y tŷ fel plentyn gen i byth - mond dau bôbl sydd arni erbyn hyn, ond os dwi ddim yn ei roi allan bob Nadolig mae'r plant yn gofyn 'Lle mae o mam?'"

  • Mwy o atgofion criw Merched y Wawr
  • Gwneud cyflaith

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý