ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Y tîm dan 13 oed. CPD Y Felinheli
Ionawr 2006
Cegin newydd i'r tîm sy'n colli gemau
Mae'r Clwb yn mynd o nerth i nerth, mae'n wir, ond nid yw'r canlyniadau ar y cae yn adlewyrchu hynny.
Collwyd pob gêm ym mis Hydref, cyn i'r gaeaf ddechrau dangos ei ddannedd. Efallai fod y tywydd wedi bod yn drugaredd i ddweud y gwir. Rhoi cyfle i ail-drefnu a ballu. Ac yn wir, ar ddydd Sadwrn yng nghanol Tachwedd daeth buddug­oliaeth o'r diwedd. Y cyntaf ers diwrnod cyntaf y tymor, ac yn ddigon rhyfedd yn erbyn Bermo unwaith eto. Ennill 1-0 oddi cartref yng Nghwpan Her Gogledd Cymru. A tydi Bermo ddim yn dim gwael chwaith. Bechod na fasa hi yn gem Gynghrair medd rhai, ond ta waeth, buddugoliaeth hir ddisgwyliedig.

Colli 1-6 yn erbyn ail dîm Porthmadog yn Y Traeth ddechrau Rhagfyr, ond Felin oedd y tîm gorau o'r ddau yn yr hanner cyntaf, er i Port sgorio yn yr eiliadau olaf i'w gwneud yn 2-1 hanner amser. Methodd y dyfarnwr roi penalti i Felin yn gynnar yn yr ail hanner, ac ar ôl i Port sgorio i'w gwneud yn 3­ - 1, nid oedd llawer o siâp dod yn ôl ar Felin.

Segur fu Felin weddill Rhagfyr, gan edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. I gael Clwb pêl-droed da, rhaid cael pethau yn iawn oddi ar y cae yn ogystal. Ac mae llawer o amser wedi ei wario yng nghae Seilo yn ddiweddar yn gwella'r cyfleusterau. Mae cegin newydd sbon yno, mi fasa'n medru pasio fel show-room i'r noddwyr Kitchen Medic i ddweud y gwir. Ac mae'r ddau hen dug-out wedi cael eu chwalu ac un newydd sbon wedi'i osod yn ei le. Un yn lle dau? Wel, toedd Felin byth yn defnyddio un nhw. Mae'n well gan Bonc a hogia Felin sefyll yn y gwynt a'r glaw yr ochor arall i'r cae. Hen draddodiad mae'n debyg. Mae llawer o waith eto i'w wneud, felly os ydi rhywun yn ffansïo gwneud rhywbeth gwerth chweil dros bêl-­droed a chymuned leol, hwn 'di'r cyfle!'

Gan fod gwaith i'w gwblhau ar y cae, nid oedd Felin (tîm cyntaf, dan 15 oed, dan 13 oed, dan 7 oed) yn chwarae gartref tan y flwyddyn newydd.

Mae'r tîm dan 15 oed, dan arweiniad Gareth 'Jo' Griffiths, wedi chwarae pump ac wedi ennill pump, gan sgorio 24 gol. Mae sgwad cryf o 18 chwaraewr gan gynnwys Sian Mererid, sydd newydd gael caniatâd gan y Gynghrair i chwarae yn nhîm yr hogiau. Tydi hyn ddim yn newydd da i weddill timau'r Gynghrair! Sgoriodd hi ddwy gôl ar ei 'debiw' yn erbyn Nantlle Vale. ­

Alun Meirion yw rheolwr y tîm dan 13 oed, a Phil Stead sydd yn cadw trefn ar y tîm dan 7 oed. Bydd mwy am y rhain yn rhifyn nesa Goriad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
ÃÛÑ¿´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý