ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Robin McBryde yn taflu i mewn i'r linell (Llun: Huw Evans Picture Agency) Camp Lawn
Sut brofiad oedd bod yng nghalon tîm y Gamp Lawn 2005? Dyma sylwadau'r bachwr Robin McBryde o Borthaethwy, y Gog cyntaf i helpu tîm Cymru i gyflawni camp fawr y byd rygbi.
Sut brofiad oedd bod yng ngharfan y Gamp Lawn?
Mi aeth yn reit sydyn o un gêm i'r llall wrth i'r bencampwriaeth fynd yn ei blaen. Rhoddodd y gêm yn erbyn Lloegr hyder i bawb ond dwi'n meddwl mai ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc ddaru ni ddechrau meddwl fod y gamp lawn yn bosibilrwydd. Mae pawb wedi gofyn beth ddigwyddodd yn y 'stafelloedd newid ar hanner amser - ond y gwirionedd ydy na ddigwyddodd dim byd gwahanol! Fel dywedodd rhywun, ddaru ni ddim clywed dim doedden ni heb ei glywed cyn cychwyn y gêm. Ddaru'r bechgyn jest asesu beth oedd wedi bod yn digwydd ar y maes a mynd ati i wella pethau. Wnaeth dim byd syfrdanol ddigwydd! Roedden ni wedi bod mor agos yn gemau'r Hydref - jest dri neu bedwar pwynt ynddi bob tro - jest mater o gael y pwyntiau ychwanegol yna oedd hi.

Y tîm yn codi'r gwpan. Llun: Huw Evans Picture AgencyBeth am yr awyrgylch yn y stadiwm?
Ddaru ni i gyd sylwi faint o bobl oedd ar y strydoedd wrth i ni deithio yn y bws a dwi'n meddwl fod y canu yn y stadiwm yn uwch nag erioed, yn enwedig gyda Max Boyce yn dal i ganu ar ôl y gêm i ddiddori pawb. Ddaru sawl un ddweud wrtha'i eu bod wedi aros am dros awr ar ôl y chwiban. Roedd yn achlysur i bawb - dim jest y chwaraewyr, ond i'r dorf ac i Gymru i gyd.

Beth am daith y Llewod?
Mae o yna yn y cefndir yn rhywle ond nes i'r garfan gael ei chyhoeddi wna i ddim meddwl llawer amdano, dim ond canolbwyntio ar weddill y tymor gyda'r Scarlets. Mae'r Cwpan Celtaidd i ddod ym mis Mai.

Oes 'na chwaraewyr eraill o'r gogledd am gyrraedd y brig?
Mae 'na ryw bump neu chwech o ieuenctid dwi'n gwybod amdanynt yn gwneud yn dda ar y funud - Cai Griffiths o'r Gweilch a'r tîm o dan 21, ddaru ennill y Gamp Lawn hefyd, ydy un ohonynt.

Mae na foi o'r Wyddgrug yn Academi'r Scarlets hefyd - felly maen nhw'n dod mewn 'dribs a drabs'.

Ond dwi yn meddwl fod y gogledd i gyd yn lle rhy fawr i un rhanbarth fel y Scarlets ddelio â fo. Dylai pawb gael y cyfle i fynd i chwarae i ba bynnag dîm ac i bawb gadw llygad ar beth sy'n digwydd yn yr ardal.

Oes gennych chi unrhyw gyngor i chwaraewyr ifanc?
Wel, mae rygbi yn gêm i bob siâp - mawr a bach. Mae hefyd yn ffordd wych o gymdeithasu os nad ydach chi eisiau ei gymryd o ddifrif. Jest mwynhewch chwarae'r gêm yn yr ysgol a chymerwch hi o fa'na.



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý