ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwedlau Lleol
Blodeuwedd a'r Blaenau
Tomen y Mur, Bryn Cyfergyd, Afon Cynwal, Llech Ronw - mae ardal Blaenau Ffestiniog yn gyforiog o gysylltiadau â chwedl Blodeuwedd ym mhedwaredd cainc y Mabinogi.
Bu rhai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn ar daith o amgylch y lleoliadau hynny ac yma, maen nhw'n egluro'r cysylltiadau:

Bedd Gronw Pebr
Lleoliad Bedd Gronw? Erbyn heddiw mae llecyn bach oedd yn cael adnabod fel Bedd Gronw Bebr o dan goed.

Mae Mrs Sali Williams, cyn berchennog ty o'r enw Llech Goronwy, yn cofio pan fyddai ei thaid yn lladd gwair hefo pladur mewn caeau ger y ty y byddai yn dweud wrth y gweithwyr am beidio â thorri gwair oedd yn tyfu dros domen fach heb fod yn bell iawn o'r ty; "Achos mai bedd Gronw Bebr ydi o."

Wrth gwrs, nid oes sicrwydd mai yma yr oedd y bedd ond fel llawer o bethau yn y Mabinogi, mae'r stori yma wedi cael ei phasio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn anffodus, mae'r codiad tir o'r golwg ac ar goll ymhlith y coed a blannwyd yno erbyn hyn.
Gan Fflur Williams

Bryn Castell a Llyn y Morynion
Danial Meredydd Yn ôl y chwedl, ffodd Blodeuwedd a'i morynion tuag yno a thrïo cuddio oddi wrth Gwydion.

Ond gan eu bod yn edrych yn ôl yr holl ffordd fe ddisgynnodd y morynion i mewn i'r llyn a boddi.

Mae'r llyn yn cael ei adnabod fel Llyn Morynion hyd heddiw.
Gan Danial Meredydd

Bryn Saeth
Mae'n bosib i Fryn Saeth gael ei enwi felly am mai oddi yma y taflodd Lleu y waywffon yn yr ardal.

Yn wir, wrth ymyl y fferm yma y darganfyddwyd y llechen gyda thwll ynddi. Mae rhai yn credu mai'r waywffon a dorrodd y twll wrth fynd drwy'r maen.

Bryn SaethPan oedd Lleu yn ei fygwth gofynnodd Gronw am gael dal y maen rhyngddo ef a'r ergyd gan feddwl amddiffyn ei hun.

Ond aeth y waywffon drwy'r llechen a'i ladd.
Gan Siôn Tomos

Llech Ronw
Mae'r llech i'w gweld ar draws y cae o dÅ· Bryn Saeth wrth Afon Cynfal.

Plant o amgylch y llechenCafodd y llech, sef maen hir efo twll crwn un pen iddo, ei darganfod gan Geraint Vaughan Jones ac Edgar Williams.

Mae'n ymddangos fod iddigysylltiad â'r Mabinogi gyda rhai yn dweud i'r twll crwn gael ei wneud gan y waywffon a daflodd Lleu i ladd Gronw Pebr.

Mae'n debyg i Lleu sefyll a ben Bryn Cyfergyd i daflu'r waywffon at Gronw oedd yn sefyll ar lan yr afon.

Gofynoddd Gronw am gael dal y llechen o'i flaen fel tarian ond aeth gwaywffon Lleu yn syth trwyddi.

Siôn Tomos Fe all y llech fod yn un ffug ond mae'n rhaid i bob chwedl gael gwreddiau felly, efallai ei bod yn wir!

Mae sôn yn y chwedl am y llech.

"Ac yna y llas (lladdwyd) Gronw Bebr, ac yno y mae llech ar lan Afon Gynfael yn Ardudwy, a'r twll drwyddi. Ac o achos hynny fe'i gelwir yn Llech Gronwy."
Gan Siôn Tomos

Mae tai yng Nghwm Cynfal wedi cael eu henwi ar ôl y stori hon.

Neu, wrth gwrs, mae'r enwau wedi dod o'r stori! Penderfynwch chi!

Plant y Moelwyn tu allan i Lech Ronw Mae gan Llech Ronw, (Llech Goronwy) gysylltiad gyda Gronw Pebr ac mae ei fedd o yn y cae reit wrth ochr y tÅ· - ar lan Afon Cynfal.
Gan Rosie Young

Sarn Helen
Mae Sarn Helen yn hen ffordd Rufeinig sydd yn cysylltu Caerfyrddin, yn y de, gyda Chaerhun yn y Gogledd.

Roedd hi yn rhedeg drwy Gaer Rufeinig a Heriri Mons. Erbyn heddiw dyma safle Tomen y Mur.

Sarn Helen tuag at Tomen y Mur O Domen y Mur mae'n rhedeg drwy Gwm Cynfal ac mae pob un o'r llefydd a enwir yn chwedl Blodeuwedd yn sefyll arni neu yn ymyl ei llwybr, er enghraifft, Llech Ronw a Bedd Gronw, Bryn Cyfergyd, y gaer yn y mynydd, sef Bryn Castell, a Llyn Morwynion.

Cafodd ei henwi ar ôl Elen Lwyddawg, gwraig Macsen Wledig Magnus Maximus, arweinydd y fyddin Rufeinig ym Mhrydain.
Gan Mared Elfyn.

Tomen y Mur
Mae i Domen y Mur - neu Mur y Castell - le allweddol yn chwedl Blodeuwedd.

Tomen y Mur Mae Tomen y Mur ar y Graig Wen ac mae'r olygfa yn hyfryd.

Tomen y Mur yw'r enw ar hen safle Mur y Castell, sef cartref Blodeuwedd a Lleu. Adfeilion o'r plas ydi'r domen.

Pan oedd Lleu i ffwrdd yn gweld Math daeth Gronw Pebr o gyfeiriad Penllyn (ardal Y Bala).

Cyfarfu'r ddau mae'n debyg yn agos i ble mae'r domen yn awr.

Ellen Thomas Tyfodd y berthynas rhwng Gronw a Blodeuwedd ac nid oedd dyfodol bellach i berthynas Lleu a Blodeuwedd a phenderfynodd y ddau ei ladd.

Y bwriad oedd iddynt hwy fyw yn hapus byth wedyn, heb Lleu. Ond nid felly y bu.

Gan Ellen Thomas

  • Taith plant Ysgol y Moelwyn i olrhain y chwedl.
  • Chwedl Blodeuwedd.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý