Dywedir i 'wrachod' neu 'witsiwrs' Llanddona gael eu halltudio o'u gwlad eu hunain ganrifoedd lawer yn ôl (o Lychlyn neu Iwerddon yn ôl traddodiad) a'u gyrru allan i'r môr mewn cwch heb rwyfau na llyw.
Yn ôl y stori, mi chwythodd y gwynt nhw i gyfeiriad Môn ac er gwaetha agwedd gelyniaethus y trigolion mi gawson nhw loches rhwng pentref Llanddona a'r môr.
Un ohonyn nhw oedd Siân Bwt - gwraig fechan garpiog, bryd tywyll, prin bedair troedfedd o daldra, a dwy fawd ar ei llaw chwith. Roedden nhw'n byw ar gardota a melltithio, a chredid y gallent drosglwyddo'u gallu o un genhedlaeth i'r llall, yn arbennig o fam i ferch. Os oedd rhywbeth yn mynd o'i le ar y fferm, y gwrachod a gâi'r bai. Roedd pobl yn credu hefyd eu bod yn gallu trawsffurfio'u hunain yn sgwarnogod i osgoi cael eu dal yn godro'r gwartheg. Roedd y gwŷr yn byw ar smyglo a phan fyddent yn flin, mi fydden yn datod cwlwm eu cadach gwddw ac yn rhyddhau pryf a'i anelu yn syth am lygad yr ymosodwr a'i ddallu. Cliciwch ar y dolenni ar y dde i glywed mwy o'r stori.
 |