ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y dorf yn Sioe Môn Mwynhau ein sioe fawr ni
Os ydych am gystadlu neu jest am grwydro o amgylch y stondinau, dyma rai syniadau am sut i wneud y gorau o Sioe Môn.

Bwyd, siopa a dianc o'r glaw - mwy am fwynhau'r sioe...

Beth ydych yn ei wneud i baratoi at y sioe?
George Thomas o Gaerwen - bridiwr defaid Wiltshire horns: Mae'n cymryd dros flwyddyn i ffeindio'r maharen orau i fridio defaid da. Yn agosach i'r amser, rhaid dofi dipyn ar y defaid gorau a'u cadw'n lan, gan nad oes gan frid y Wiltshire wlân o gwbwl yn yr haf. Mae gan y brid yma hefyd gyrn mawr, ond nid oes rhaid gwneud lot gyda nhw os da chi'n bridio nhw'n iawn.

Bydd yna llai o gystadleuaeth eleni gan na fydd y Saeson yn dod oherwydd clefyd Blue Tongue. Nid yw wedi cyrraedd fan hyn eto, ond mae perig y daw.

Gareth Jones o Gaerwen - tyfwr llysiau: Dwi'n tyfu'r llysiau i mewn yn y poly tunnel yn lle allan yn yr ardd eleni. Byse prynu tÅ· gwydr maint yna'n costio miloedd, felly mae'r twneli yn ffordd rhad i dyfu pethau o dan do. Maen nhw hefyd yn hwylus gan eich bod yn gallu plannu ym mhridd yr ardd, yn lle gorfod cario'r pridd i mewn i'r tÅ· gwydr - arbed mwy o gost a thrafferth..

Mae gennym ni ddefaid, felly dwi'n creu gwrtaith fy hun trwy roi'r baw defaid mewn sach, sy'n gweithio tebyg i fag te, ac yna rhoi'r cwbl mewn bun o ddŵr.. Mae'n wych.

Nerys Haf o Roscolyn: Mae fy merch yn reidio merlen a fy meibion yn dangos gwartheg, felly mae'n cymryd lot o waith i'r teulu i gyd cael pethau'n barod. Rhaid golchi'r anifeiliaid, gwneud yn siŵr bod eu cotia'n lan, bod mwng y ferlen wedi ei blethu a bod y gwartheg wedi eu siafio yn y lle iawn. A sicrhau ein bod efo digon o siampŵ, hairspray, jêl a glitter i'w ddefnyddio ar y gwartheg - cyfrinach fach ar sut maen nhw'n edrych mor dda!

Rhaid hefyd sicrhau fod dillad y plant yn barod - bydd y bechgyn yn gwisgo cotiau gwyn wrth ddangos y gwartheg ac mae'n rhaid i Alaw edrych yn smart ar ei merlen hefyd.

Eleanor Hughes o Llan Beulon - Merched y Wawr Ynys Môn: Mi fydd Merched y Wawr Môn yn cynnal arddangosfa pob blwyddyn yn ein pabell ar y maes. Eleni, mae o'n arddangosfa o luniau o Fôn, ddoe a heddiw. Mae'r babell yn lle i gymdeithasu ac i ddod am baned a bisged, felly dewch!

Beth ydych yn ei wneud gyda'ch cynnyrch ar ôl y sioe?
George Thomas: Da ni'n gwerthu'r ŵyn maharen i fridwyr eraill ledled Prydain. Nid ydym yn gwerthu'r defaid i'w cig - mae lot yn synnu ein bod yn cadw defaid, ond ddim yn bwyta cig oen! Gareth JonesGareth Jones: Yn Sioe Môn 2007, mi wnes i ennill y gystadleuaeth am y llysieuyn mwyaf gyda fy marro enfawr. Nid oeddwn yn siŵr beth i wneud efo fo wedyn, felly dwi wedi trio gwneud diod feddwol allan ohono!

Dwi wedi sleisio un pen i ffwrdd, i greu rhyw fath o gaead, yna tynnu'r hadau allan a'i bacio gyda siwgr brown. Yna mi wnes i roi'r marro mewn pâr o deits, sef creu rhyw fath o ridyll - mi wnaiff y siwgr fwyta drwy'r cnawd, yn difetha wal allanol y marro, gan adael y diod feddwol ar ôl sydd i fod i flasu ychydig fel rum. Dwi heb fentro ei yfed eto!

Unrhyw lwyddiannau neu drafferthion yn y gorffennol?
George Thomas: Da ni wedi cael lot o wobrau ar hyd y blynyddoedd gyda'r Wiltshires yn adran defaid y wlad, sy'n wahanol i adran defaid y mynydd wrth gwrs.

Gareth Jones: Mi wnes i ddod yn ail yn y gystadleuaeth tomato blwyddyn ddiwethaf, ymhlith tyfwyr mwy profiadol. Ond mae'n cymryd lot o waith i gyflwyno'r tomatos gorau - rhaid cael llawer o blanhigion er mwyn gallu pigo llond llaw o rhai perffaith. Yn ffodus, mae gen i ddigon o ffrindiau i gymryd y gweddillion!

Bwyd, siopa a dianc o'r glaw - mwy am fwynhau'r sioe...


Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý