ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru
ÃÛÑ¿´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

ÃÛÑ¿´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cneifio yn Sioe Mon Mwynhau ein sioe fawr ni

Lluniau o Sioe Môn '08
Cyfrinachau cystadlu a mwy am fwynhau'r sioe...

Heblaw am eich arbenigedd chi, beth arall sydd dda i'w wneud yn y sioe?
Gareth Jones: Un o'r pethau mwyaf cyffrous i'w gwylio yw'r gystadleuaeth cneifio, yn enwedig dosbarthiadau'r cystadleuwyr agored sy'n gallu cneifio dafad mewn rhyw hanner munud! Mae pobl o gefndir ffermio a phobl sydd heb unrhyw gysylltiad yn mwynhau cyffro'r gystadleuaeth yma. Mae yna sylwebaeth ar y cystadlu hefyd, sy'n ychwanegu at y cyffro a'r hŵyl.

George Thomas: Gweld pob peth fedrwn ni - dyma ein gwyliau ni a da ni'n joio'n hunain yn fawr, yn enwedig y ceffylau a'r gwartheg - da ni ddim yn bobl moch.

Nerys Haf: Cymdeithasu; mae o'n le i weld pobl dda chi ddim yn gweld o un flwyddyn i'r llall. Mi fyddem yn aros mewn carafán, sy'n gyfle i fod efo pobl gwartheg a cheffylau eraill a chael hwyl.

Eleanor Hughes: Mae'r babell cynnyrch yn werth ei weld ac mae cymdeithasu'n bwysig iawn hefyd! Dyma'r sioe fwyaf, heblaw am y Sioe Frenhinol, a hwn oedd y diwrnod mawr i forynion a gweision fferm flynyddoedd yn ôl - eu unig ddiwrnod o wyliau!

Ond dydy o ddim yn lle ar gyfer pobl fferm yn unig. Mae rhai ymwelwyr yn dod i Sir Fôn adeg yma o'r flwyddyn yn arbennig i fynd i'r sioe - mae yna rywbeth i bawb.



Dwi hefyd yn hoffi mynd i chwilio am fargeinion ymhlith yr holl stondinau. Mae yna digon o ddillad, offer tÅ·^, popeth yn ymwneud a cheffylau a hyd yn oed busnesau gwerthu ceir.

Beth yw'r peth gorau i'w wneud os yw'n bwrw glaw?

Gareth Jones: Os yw'n bwrw glaw, mae 'na ddigon o weithgareddau dan do. Er enghraifft, mae'r babell gynnyrch yn lle diddorol a difyr i basio'r amser ac mi fyddwch yn saff o weld rhywun y byddwch yn ei adnabod yr un pryd.

Mae'r babell adloniant yn cynnig pethau fel adloniant byw a sioeau ffasiynau, a rhywbeth i ddiddori plant fel arfer. Os ydych yn mwynhau profi cynnyrch lleol, beth am y neuadd fwyd, sydd yn cael ei gynnal mewn adeilad parhaol (yn hytrach na phabell) - yn ogystal â stondinau mae yno arddangosfeydd coginio.

Nerys Haf: Da ni dal gorfod cario 'mlaen, beth bynnag yw'r tywydd. Nid yw'r show jumping na'r dangos gwartheg yn stopio oherwydd y tywydd.

Eleanor Hughes: Mae yna bafiliwn parhaol ar y maes, ac mae yna ddigonedd o bethau'n mynd ymlaen fanno. Dyna le bydd un o fy hoff stondinau, sy'n gwerthu esgidiau Eidaleg - mi gewch chi fargen arnynt, a bagiau llaw hefyd.
Mae yna ffyrdd Tarmac ar y maes hefyd, felly nid yw hi mor ddrwg â hynny os oes yna law.

Beth yw'r peth gorau i'w fwyta/yfed yn y sioe?
Gareth Jones: Fe fydda i bob amser yn anelu am stondin Cig Oen Maethlon, o fferm Erw Faethlon yn ardal Towyn, Meirionydd. Hefyd dwi'n hoffi cefnogi Cymry Cymraeg sy'n gwerthu cynnyrch cartref.

Mae adeilad y Ffermwyr Ifanc a stondin Merched y Wawr yn dda iawn am baned a chacen/bisged - dydyn nhw ddim yn gwerthu lluniaeth, ond mi allwch roi cyfraniad iddynt, felly mi gewch baned da a helpu achosion teilwng yr un pryd.

Fy ffefryn i ar gyfer rhywbeth i'w yfed yw'r stondin ysgytlaeth a choffi llefrith; fyddai yn ymweld â hi yn aml iawn yn ystod dau ddiwrnod y sioe.

George Thomas: Byddai'n ddigon bodlon gyda'r hufen ia.

Nerys Haf: Mi fyddem yn mynd i'r babell country land owners. Mae'n rhaid cael tocynnau arbennig i fynd yma ond mae'r bwyd a'r diod yn wych.

Eleanor Hughes: Mi fyddaf yn mynd i babell yr Is-Lywyddion, sydd efo bwyd poeth neis. Mae o ar agor i bawb erbyn hyn, er bod yna ddigonedd o bethau ar y maes - hot dogs, hog roast - a bar hefyd.

Unrhyw gyngor i rywun sydd am gystadlu am y tro gyntaf?
Gareth Jones: Dwi'n canolbwyntio ar ychydig o ddosbarthiadau llysiau yn hytrach na thrio gyda bob dim; mae'n well gwneud joban dda gydag ychydig bach o bethau na chael dim byd efo cant a mil ohonynt.

Ar yr un pryd, peidiwch ofni mentro cystadlu yn erbyn pobl brofiadol a llwyddiannus - mae'n rhaid cychwyn yn rhywle. Ond os nad yw'r cynnyrch o safon erbyn diwrnod y sioe, byddai'n well peidio cystadlu yn y dosbarth hwnnw na gwneud eich hun yn destun sbort i bobl eraill!

Hefyd, dysgwch gan bobl brofiadol; mae'r rhan fwyaf o bobl yn fwy na bodlon rhannu cynghorion, yn enwedig gyda chystadleuwyr ifanc a newydd.

George Thomas: Yr unig beth allai ddweud yw peidio disgwyl cael gormod o lwyddiant y flwyddyn gyntaf. Ac ar ôl ennill sawl gwaith, mae'n anodd aros ar y top!

Nerys Haf: I fwynhau eich hunain. Mae'n bwysig iawn i bobl leol cystadlu gan fod lot o bobl o bell yn dod i gystadlu - dyma ein sioe fawr ni felly dewch a mwynhewch!

Cyfrinachau cystadlu a mwy am fwynhau'r sioe...


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý