ÃÛÑ¿´«Ã½


Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Cynhyrchiad

Colur a Gwisgoedd

Mae Y Twr yn dilyn dau gymeriad trwy dri chyfnod yn eu bywyd - ieuenctid, canol oed a henoed. Sut mae newid oedran person? Meinir Jones-Lewis a Maggie Reynish fu'n egluro.

MaeÂ’r cymeriadauÂ’n heneiddio o 16 i 70, "ond yn meddwl y gwyliwr maeÂ’r oedran" meddai Meinir, "does dim rhaid iddyn nhw edrych yn 71 neu 16, dim ond 'u bod nhwÂ’n cyfleuÂ’r syniad o ieuenctid a rhywun yn heneddio. Roedd amserau saethu yn brin, felly roedd rhaid torri lawr ar roi lot o groen hen ac ati ar y cymeriadau. Da chi methu rhoi croen i wneud i rywun edrych yn ifanc beth bynnag. Dwi'n dibynnu ar y goleuo i helpu iÂ’w gwneud nhw edrych yn ifanc" meddai.

Defnyddio gwallt oedd prif gyfrinach Meinir i gyfleu oedran y cymeriadau, "wig hir a frivolous i'r rhai ifanc a wig syÂ’n britho ar gyfer hen oed. Roedd rhoi mwstash ar Huw yn help hefyd".

Cymerai awr yr un i baratoi'r ddau actor pob dydd, "rhaid cael gwared oÂ’u gwalltiau nhwÂ’u hunain gynta, a ma hynnyÂ’n broses syÂ’n cymryd 15 munud yn ei hunan."

Nid yw gwaith Meinir yn gorffen ar hynny, rhaid iddi fod wrth law drwy gydol y dydd. "Ma lot o bethe’n gallu digwydd yn ystod ffilmio, dwi ‘di gorfod gwnïo wig Betsan ymlaen am ei fod mor hir, maen nhw’n rhedeg o gwmpas lot, felly ma rhaid sicrhau nad ydi o’n dod i ffwrdd". Yr ateb oedd rhoi lastig bands bach trwy'r gwallt a gwnïo’r rheiny i’r wig fel nad oedden nhw'n dod i ffwrdd.

"Ond ma 'na wastad rhywbeth all ddigwyddÂ…"

Doedd dim cyfnod arbennig i'r gwisgoedd, gan ei bod hi'n ddrama oesol, "ond efallai fod ychydig o deimlad o'r pumdegau ar y dechrau" meddai Maggie Reynish, fu'n gyfrifol am y gwisgoedd. Ni ellir trefnu gwisgoedd nes i'r cynhyrchydd, y cyfarwyddwr a'r cynllunydd wneud y penderfyniadau eraill.

Delwedd neu 'look' yr actorion ddaw olaf yn ôl Maggie. Penderfynwyd ar liwiau'r gwisgoedd yn gyntaf gan fod lliwiau mor bwysig yn y ddrama ei hun. "Gwyn oedd lliw y set yn yr act gyntaf, felly dewisiais i wyn ar gyfer y bachgen a ffrog las a gwyn i'r ferch - lliwiau ifanc, glân a ffres." Roedd Maggie hefyd yn awyddus i ddewis lliwiau na fyddai'n tarfu'n ormodol ar y gwyliwyr.

Rhaid gweithio'n agos gyda'r actorion wrth baratoi unrhyw wisgoedd, gan fod y gwisgoedd yn chwarae rhan bwysig wrth eu helpu i gyfleu'r cymeriad. Yn yr ail act, rhoddwyd Huw mewn siwt oedd ychydig yn rhy fach iddo er mwyn rhoi edrychiad anghyffyrddus a milain iddo.

Chafodd dim un gwisg ei gwneud yn arbennig ar gyfer y ddrama; cael eu rhentu oedd 80% ohonynt fel nad oedden nhw'n edrych yn newydd sbon. "Defnyddiais i hen ffrog fy mam o'r 1950au ar Betsan yn yr act gyntaf" meddai Maggie.

Mae sicrhau dilyniant yn rôl bwysig iawn tra'n ffilmio i'r un sy'n gyfrifol am y gwisgoedd. Weithiau, mae'r un olygfa yn cael ei ffilmio ar ddiwrnodau gwahanol, felly rhaid sicrhau fod pob tei wedi ei glymu yr un ffordd, a strapiau ar ffrog yn yr un lle. I wneud pethau'n haws, mae'n arferol i wnïo'r actor i mewn i'w wisg.

Ìý

ÃÛÑ¿´«Ã½
© MMI



Y Dramodydd

Y Cynhyrchiad
Yr Actorion
Cynhyrchu a Chyfarwyddo
Lleoliadau a Set
Colur a Gwisgoedd
Y Gerddoriaeth

Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy