ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru - Llyfr y FlwyddynÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru - Llyfr y Flwyddyn

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Kate Crockett yn holi Llwyd Owen

Wedi'r noson - y dadlau yn parhau

Kate Crockett yn sgrifennu o noson Llyfr y Flwyddyn 2007 . . .

"Viva democratiaeth!" meddai T Robin Chapman wrth dderbyn Gwobr y Darllenwyr am ei gofiant i Saunders Lewis, Un Bywyd o Blith Nifer, yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2007 yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd.

Unwaith eto eleni doedd pleidlais y bobl ddim yn cyd-fynd â'r beirniaid swyddogol: Llwyd Owen aeth â'r siec o £10,000 am ennill teitl swyddogol Llyfr y Flwyddyn am Ffydd, Gobaith Cariad ond cael a chael oedd hi iddo ennill gyda phob un o'r beirniaid: Elinor Jones, Gwion Hallam a John Rowlands, yn ffafrio llyfr gwahanol oddi ar y rhestr fer.

Ond ar ôl hir drafod eu dewis consensws oedd mai'r nofelydd ifanc disglair o Gaerdydd, Llwyd Owen, fyddai'n mynd â hi eleni.

Kate Crockett yn holi Robin Chapman A chan fod Gwen Pritchard Jones eisoes wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd am Dygwyl Eneidiau, mae pob un oedd ar y rhestr fer eleni wedi cael camu i'r llwyfan ar ryw achlysur i ennill cydnabyddiaeth gyhoeddus i'w gwaith.

Er bod rhoi'r wobr i Llwyd Owen wedi cadarnhau'r sibrydion ar y noson, doedd yntau ddim wedi disgwyl ennill.

Mae ennill yn gamp ryfeddol iddo o ystyried ei yrfa fer fel awdur: o'r enfant terrible a gododd fraw ar feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen gyda 'bratiaith' ei nofel gyntaf Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn 2005, i enillydd Llyfr y Flwyddyn, mewn llai na dwy flynedd.

Eisoes mae trydedd nofel ar y ffordd ganddo, yn ogystal â sgript ffilm - heb sôn am y babi newydd.

Mae'n anodd dychmygu y bydd ganddo amser i deithio'n bell iawn yn y campyr fan y mae am brynu gyda'i enillion.

Lloyd Jones Cymro Cymraeg ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth ar gyfer llyfrau Saesneg eleni: enillodd Mr Cassini gan y gogleddwr diymhongar Lloyd Jones Wobr y Darllenwyr yn ogystal â theitl swyddogol Llyfr y Flwyddyn.

Disgrifiwyd ei nofel fel "taith seicolegol trwy Gymru", a gwaith sy'n dangos tipyn o ddylanwad y Mabinogi.

Llyfr heriol, gwreiddiol; a bellach mae am droi ei law at ysgrifennu yn Gymraeg. Tybed a fydd yn llwyddo i ennill y dwbl a chipio'r wobr Gymraeg hefyd yn y dyfodol? No pressure...

Roedd gwobrwyo Llwyd Owen yn golygu hatric fodd bynnag - nid i Llwyd ond i'w gyhoeddwyr, gwasg y Lolfa, sy'n dathlu llwyddiant arall yn dilyn buddugoliaeth Rhys Evans y llynedd gyda'i gofiant i Gwynfor Evans a Caryl Lewis yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco. Tipyn o orchest, yn enwedig gan fod y tri llyfr mor wahanol i'w gilydd.

Kate Crockett yn holi John Rowlands, cadeirydd y panel beirniaid Daeth y seremoni swyddogol i ben tua deg o'r gloch ond roedd y dadlau am y cyfrolau ar y rhestr fer - a'r rhestr hir - i'w glywed ymhell wedi hynny.

Mae'r wobr wedi tyfu'n aruthrol o ran sylw dros y blynyddoedd diwethaf a chyda hynny'r trafod sydd ar y llyfrau.
Viva trafodaeth!

  • Bydd rhagor o drafod ar Llyfr y Flwyddyn yn Stiwdio am chwech o'r gloch nos Iau Gorffennaf 12, 2007, ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru.

    Kate ar Y Rhestr Fer



  • About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý