
Maria Pride: Actor - enillydd
21 Hydref 2009
Maria Pride yw enillydd Mastermind Cymru Nadolig 2009. Wrth ymateb i'w llwyddiant, meddai: "Ro'n i wedi synnu ac yn dal i ryfeddu. Fy ymateb cynta i oedd "Fancy that!" Ro'n i wedi disgwyl i'r rownd cwestiynau cyffredinol fod yn eitha siomedig ond mi wnes i'n dda! Ma'n rhaid fy mod i wedi cael cwestiynau rhwydd!"
Bydd tlws Mastermind Cymru yn cadw cwmni i wobr Bafta Cymru ar silff ben tân Maria, drws nesa' i'w physgodyn aur!
Pwnc arbenigol: ffilmiau arswyd Saw
Oeddech chi'n hapus efo'ch perfformiad?
O'n i'n hapus iawn gyda 'mherfformiad. Ond mi on i'n teimlo'n dwp pan ges i'r atebion i'r cwestiynau wnes i basio arnyn nhw. Erbyn hyn, ma nhw'n gwestiynau rhwydd ond ar y pryd doedd dim syniad 'da fi!
Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?
On i'n stiwpid o nerfus wrth eistedd yn y gadair ddu. Fi odd gyntaf hefyd!
Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?
Dewisais i 'mhwnc arbenigol i oherwydd fy mod i'n hoff iawn iawn o ffilmiau arswyd a 's'dim lot o bobl yn gwbod 'na amdana'i. O'n i wedi ystyried gwneud gwaith y'n hoff nofelydd i, Gabriel Garcia Marquez, ond o'dd hwnna'n golygu lot o waith darllen, a dwi mor brysur yn darllen sgriptiau Pobol y Cwm, s'dim amser sbar 'da fi. Mi oedd hi'n haws gwylio dvds ffilmiau Saw.
Oedd y profiad yn y gadair ddu beth roeddech chi'n ei ddisgwyl?
Doedd gen i ddim disgwyliadau am y gystadleuaeth o gwbwl a don i ddim yn poeni rhyw lawer chawith, nes i fi glywed y gerddoriaeth! A wedyn, mi on i'n teimlo'n sâl ac yn difaru 'mod i wedi cytuno i gymryd rhan.
A oedd cystadleuaeth frwd rhwng yr enwogion?
Mi oedd 'na dipyn o chwerthin yn digwydd rhyngton ni ac edmygedd, ond nid cystadleuaeth.
Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?
Mae 'ngwybodaeth gyffredinol i fel arfer yn salw! Pan dwi'n mynd i'r cwis yn y 'nhafarn leol i, sai'n ateb dim
Felly, pwy adeiladodd Gastell Caernarfon?
Bob The Builder? [agos, ond Edward Iaf yw'r ateb cywir].
Mwy am Maria Pride ...
Mae Maria Pride ar hyn o bryd yn chwarae rhan cymeriad brith o'r enw Debbie Collins sy'n fam i dri o blant yng nghyfres hirhoedlog y ÃÛÑ¿´«Ã½, Pobol y Cwm. Mae wedi ymddangos ar sawl cyfres deledu a ffilm yn Gymraeg ac yn Saesneg gan gynnwys y Pris, The Bench, Tipyn o Stâd, Con Passionate, Iechyd Da a Llid y Ddaear/Angry Earth.
Daw'n wreiddiol o bentref Rhydyfelin ger Pontypridd ac aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Graddiodd mewn Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn 1991 ond ni aeth i goleg drama gan ddysgu, yn ei geiriau hi, "ar y job". Actiodd yn broffesiynol am y tro cyntaf pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed ar gyfres deledu o'r enw Nobody's Hero i deledu Thames. Ei swydd gyntaf 'go iawn' oedd i HTV ar y rhaglen i blant, Sblat!, pan oedd yn 17 mlwydd oed.
Enillodd wobr Bafta Cymru am yr actores orau yn 2000 am ei rhan mewn drama ddogfen rymus am gam-drin plant, Care.
Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, Gavin, wedi iddyn nhw briodi ar ynys fechan Santorini yng ngwlad Groeg yn 2007.
Mwy
Cysylltiadau'r ÃÛÑ¿´«Ã½
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar iPlayer.
Y Cyflwynydd

Betsan Powys
Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.