
Hunan-ddelwedd ydy'r ffordd rÅ·n ni'n gweld ein hunain
Ni gyd yn becso bach am sut rÅ·n ni'n edrych. A byddai'r rhan fwya ohonon ni'n hoffi newid rhyw ran o'n corff. Sneb yn edrych yn y drych ac yn meddwl: O ie. Fi'n berffaith!
Ond ma' gan lawer ohonon ni ddelwedd negyddol iawn o'n hunain. Ni'n beirniadu'n hunain a phobol eraill yn ôl sut ma' nhw'n edrych. Ni'n hala llawer o amser yn meddwl am sut rŷn ni'n edrych.
-
- Ma' 36% o fenywod yn ystyried cael llawfeddygaeth blastig (plastic surgery) achos bo' nhw'n anhapus â sut ma' nhw'n edrych.
- *Dywedodd 90% o fenywod bod y ffordd ma' nhw'n edrych yn gwneud iddyn nhw deimlo'n isel a bo' nhw'n meddwl am y peth bob dydd.(*Awst 2001 -arolwg Top Santé/Telegraph)
- Dywedodd 50% o ferched ysgol bo' nhw ar ddeiet.
Ma' selebs ym mhobman. Jyst pan rôt ti'n meddwl bod hi'n ddiogel i ti agor y papur - dyna un arall. Yn wên o glust i glust, gyda chorff perffaith, croen perffaith a dannedd perffaith. Ma' astudiaethau wedi dangos bo' ni'n teimlo'n llai bodlon â'n cyrff ar ôl i ni weld hysbysebion teledu sy'n dangos pobol denau a phrydferth.
Ma'r un peth yn wir am ddarllen magasîns ffasiwn. Ma' arbrofion wedi dangos bod ffotograffau o fodels tenau iawn mewn magasîns yn gwneud i ni deimlo'n isel, yn stressed, yn euog, yn ansicr ac yn anfodlon â'n corff.
Ond pam bo' ni'n prynu'r hen fagasîns ma' te!? Pam bo' ni'n gwneud hyn i'n hunain? Allwn ni ddim gweld bod y lluniau hyn wedi cael eu gwella gan gyfrifiadur? Bod y lliw haul, yr ewinedd, y dannedd, y gwallt, y bŵbs yn ffug? A'r ffaith bod 'da nhw hyfforddwr ffitrwydd a chynllunydd ffasiwn llawn amser yn gweithio iddyn nhw. Ma' nhw fel doliau bach plastig.
Dim ond tua 1% ohonon ni sy'n gallu bod mor denau â seleb siwper slim ta beth. Ar gyfartaledd ma' menywod Prydain yn gwisgo dillad maint 14/16. Meddylia am hynna, a phasia Kit Kat arall i fi.
Mae'n bryd i ni stopio codi'n trwyn wrth edrych ar ein hunain yn y drych, a theimlo'n ych jyst achos bod dim six pack 'da ni.
Ni gyd yn grêt yn ein ffordd ein hunain. Sdim rhaid edrych fel Catherine Jenkins neu Ioan Gruffydd. Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.