
Sgen ti rywbeth i'w ddweud wrth Mosgito?
Oes 'na bwnc sy'n agos at dy galon? Beth sy'n dy wylltio di - neu'n dy gyffroi di?
Oes gen ti sialens ar gyfer un o'n cyflwynwyr? Neu, wyt ti'n awyddus i ddangos dy ddoniau di?
Mae'n bwysig bod Mosgito yn cael gwybod am bob dim yn dy fyd di. Mae na gyfle i ti gyfrannu i Mosgito ar bob math o lefelau. Ac mae'r tîm yn ysu i glywed gennyt!
Mae cysylltu â ni'n hollol syml. Cei ddefnyddio'r ffurflen ar y chwith i anfon unrhyw negeseuon.
Neu,os oes yn well gennyt:
Ebostia mosgito@bbc.co.uk
Tecstia gan roi MOSGITO ac yna dy neges a'i yrru at 88822.
Mae cost pob tecst rhwng 10c-12c yn dibynnu ar dy ddarparwr.

Neu beth am godi'r ffôn? Mae'r llinellau ar agor rhwng 6yh-7yh bob nos Fawrth a nos Iau. 0808 10 10 777
Mae galwadau am ddim ond cofia ofyn canitâd i ffonio.
Mae'n bosib sgrifennu at y cyfeiriad isod hefyd:
Mosgito
Ystafell S009
TÅ· Oldfield
ÃÛÑ¿´«Ã½
Llandaf
Caerdydd
CF5 2YQ