ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Amdanat ti

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Pwyso gormod

Pwyso gormod

Hynny yw: Pwyso dros 20% yn fwy na'n pwysau delfrydol. Pwyso gymaint nes bo' ni'n debygol o wneud ein hunain yn sâl. Ma' bron i un o bob pump o bobol ifanc 15 oed ym Mhrydain yn rhy dew.

Diffiniad swyddogol: Indecs Màs y Corff (Body Mass Index - BMI) o fwy na 30.

  • 20-25 Iach
  • 25-30 Rhy drwm
  • > 30 Rhy dew neu obese

Beth yw BMI? BMI = ein pwysau mewn cilograms wedi'i rannu â'n taldra mewn metrau sgwâr. Er enghraifft, os wyt ti'n pwyso 65 cilogram ac yn mesur 1.68 metr o daldra, galli di gyfrifo dy BMI drwy rannu 65 â (1.68 x 1.68) = 23.

Beth yw'r ots? Mae e'n fwy na jyst edrych yn dda. Os ydyn ni'n rhy dew, rydyn ni'n fwy tebygol o ddiodde o salwch fel diabetes, pwysedd gwaed uchel a chlefyd y galon. Rydyn ni'n teimlo'n isel yn fwy aml. Rydyn ni'n fwy tebygol o ddiodde o arthritis. Ma' bod yn rhy dew yn gallu achosi rhai mathau o ganser hyd yn oed. Mae'n debyg y byddwn ni'n marw yn ifancach na phobol sy ddim yn pwyso gormod. Dyw e ddim yn beth da.

Pam bo' ni'n mynd yn rhy dew? Dim ond un peth sy'n gwneud i ni fynd yn rhy dew - bwyta mwy nag sydd ishe arnon ni. Ma' hynny'n meddwl bo' ni'n storio'r calorïau ychwanegol fel braster.

Wrth gwrs, ma' rhai ohonon ni'n gwneud llai o ymarfer corff nag eraill. A falle bod pwyso gormod yn rhywbeth sy'n rhedeg yn y teulu. Ond y gwir yw bo' ni'n dew achos bo' ni'n bwyta mwy o fwyd nag sydd ishe arnon ni.

Dwi'n meddwl bo fi'n rhy dew, beth alla i wneud? Allwn ni ddim newid y math o gorff sydd 'da ni. Ond gallwn ni i gyd fwyta'n well a gwneud mwy o ymarfer corff. Dim jyst er mwyn edrych a theimlo'n ffantastig ond er mwyn gwneud yn siŵr bo' ni'n aros yn iach yn y dyfodol. Meddylia am y peth fel prynu polisi yswiriant bywyd.

Ond dwi'n casáu deiets, beth ddylwn i wneud? Ma' bwyd yn grêt - sneb yn hoffi starfo, a dyw 'crash deiets' ddim yn gweithio. Ma' bod ar ddeiet yn gwneud i ni deimlo'n ych - ni'n starfo, ni'n wan a ni mewn hwyl wael. Ac wedyn, rydyn ni'n rhoi'r pwysau nôl mlaen yn syth ar ôl gorffen y deiet. Felly, bydd yn gall. Tria fwyta mwy o'r pethau iawn a llai o sothach. Am byth. Dyna'i gyd sydd ishe i ti wneud - bydd dy gorff yn gofalu am bopeth arall.

A dwi'n casáu mynd i'r gym hefyd, beth ddylwn i wneud? Dyw pob un ddim yn hoffi chwysu peints yn y gym. Diolch byth, sdim ots 'da'n corff ni ble ŷn ni'n ymarfer. Tria wneud rhywbeth corfforol dair gwaith yr wythnos am 20 munud o leiaf - sdim ots beth yw e'.

I gloi... Paid â bod yn rhy galed ar dy hun. 'Sneb yn berffaith. Ma' meddwl am fwyd o hyd yn boen yn y pen-ôl. Dylai pob un gael Krispy Kreme bob hyn a hyn. A chofia, ma' bod yn rhy ysgafn yn wael i'n hiechyd hefyd. 'Sneb i fod i edrych fel Nicole Richie - dim hyd yn oed Nicole Richie ei hunan!

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý