ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Delwedd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Tyllau'n y corff

Tyllau yn y corff (Piercings)

Beth yw 'piercing'? Twll bach sy'n cael ei wneud mewn rhan o'r corff er mwyn gallu rhoi tlws o ryw fath ynddo.

Sut mae'r tyllau hyn yn cael eu gwneud? Fel arfer, gwn bach sy'n cael ei ddefnyddio i wneud tyllau yn y clustiau. Nodwydd sy'n cael ei defnyddio i wneud tyllau mewn rhannau eraill o'r corff.

Ydy e'n gwneud dolur? Ydy. Mae faint o ddolur byddi di'n gael yn dibynnu ar dy allu di i gymryd poen ;). Dyw pobol sy'n gwneud piercings ddim yn cael rhoi pigiad anesthetig i ti. Gallan nhw ddefnyddio eli, wipes neu sprays i helpu i guddio'r poen. Ond dyw'r pethau hyn ddim yn helpu i atal unrhyw haint.

A fydd y twll yn mynd yn dost ac yn septig? Mae hynny'n ddigon posib. Mae'n gallu cymryd rhwng mis a blwyddyn i dwll wella. Os na fyddi di'n cadw'r twll yn lân yn ystod y cyfnod yma, gallet ti gael haint bacterol, ac mae perygl y byddi di'n cael craith hefyd.

  • Y prif beth i'w gofio yw fod cael twll yn dy glust, trwyn neu fogel yn para am byth. Os wyt ti am osgoi salwch a haint mae'n bwysig dy fod ti'n barod i lanhau'r twll yn aml iawn gan ddilyn amserlen. Os nad wyt ti'n meddwl y byddi di'n barod i wneud hyn, fe allai fod yn fwy o drafferth nag yw o werth. Bydd gant y cant yn siŵr a chofia siarad gyda dy deulu a dy ffrindiau cyn gwneud unrhyw ddewisiadau mawr.
A oes unrhyw effeithiau drwg eraill? Mae'n ddigon posib y byddi di'n difaru cael twll. Bydd e 'na am weddill dy fywyd ac yn dy atgoffa o'r camgymeriad. Meddylia am y dillad rôt ti'n eu gwisgo 5 mlynedd yn ôl. Fyddet ti byth yn eu gwisgo nhw nawr - sdim angen dweud mwy, oes e?

Mae tyllau'n gallu mynd yn dost ac yn boenus iawn. Ma' nhw'n gallu achosi abscess a gwneud drwg i'r gwaed. Mae rhai pobol wedi gorfod cael grafftiau croen hyd yn oed ar ôl i dwll fynd yn dost. Mae cael piercing lawr fan 'na yn gallu gwneud hi'n anodd ac yn boenus i biso neu gael rhyw. Os yw'r nodwydd a gafodd ei defnyddio i wneud y twll yn frwnt, fe allet ti gael Hepatitis B, Hepatitis C neu HIV.

A alla i wneud twll fy hunan â nodwydd? Na, paid. Rwyt ti'n llawer mwy tebygol o gael haint neu graith os wyt ti'n gwneud y twll dy hunan.

Ble ddylwn i fynd i gael piercing?

  • Chwilia am le da sy'n arbenigo yn y fath beth. Bydd lle da yn edrych yn lân, a bydd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw lyfr sy'n dangos lluniau o gwsmeriaid blaenorol.
  • Gwna'n siŵr bod y person sy'n gwneud y twll yn defnyddio menig rwber newydd a nodwyddau newydd wedi'u sterileiddio.
  • Mae rhai cynghorau lleol yn cadw cofrestr o bobol sy'n addas i wneud piercings. Bydd rhif y cyngor lleol yn y llyfr ffôn.
  • Ar ôl i ti gael y twll, dylet ti gael taflen sy'n egluro sut mae cadw'r twll yn lân.

Fi wir ishe mynd amdani Os wyt ti o dan 16 oed, dylai unrhyw le cyfrifol a da wrthod gwneud twll i ti os nad yw un o dy rieni di gyda ti. A bydd rhaid i ti fod yn 18 oed cyn y galli di gael twll yn dy nipls neu lawr fan 'na. A sdim pwynt i ti ysgrifennu llythyr caniatâd a chopïo llofnod dy fam ar y gwaelod - fydd e ddim yn gweithio.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Eich sylwadau

Bydd y cynta i gyfrannu...

Cysylltu

Rho dy farn - anfon dy sylwadau at Mosgito nawr!

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.




About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý