ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Joio

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Siarad Siopa gyda Hollie

Siarad siopa

Rwy'n caru mynd i siopa. Rwy'n mynd ddwy waith yr wythnos.

Rhan fwyaf o'r amser, rwy'n mynd gyda ffrindiau. Hefyd fy chwaer oherwydd ma' hi'n dweud y gwir am bethau rwy'n eu trio ac mae hi'n hoffi siopa am amser hir hefyd.

Rwy'n trio mynd i Lundain mor aml ag y gallai ond y lle gorau i siopa ydy'r 'fashion capital', Paris.

Mae gen i dros 60 pâr o esgidiau - dyna fy ngwendid i!

Fel arfer, rwy'n cael cinio yn gyntaf er mwyn cael digon o egni.

Wedyn rwy'n mynd i fy hoff siopau fel Primark, H+M a Miss Selfridge. Wedyn troi i mewn i rai eraill i edrych o gwmpas. Os rwy'n edrych am rywbeth penodol byddaf yn edrych o gwmpas yn gyntaf ond os dwi jyst yn mynd i gael hwyl, rwy'n mynd i fy hoff siopiau.

Rwy'n hoffi bargen felly mae Primark a H+M yn ffefrynnau. Does dim ots gen i brynu dillad drud - ond rhaid i fi ystyried a fyddwn i'n eu gwisgo nhw eto. Rwy'n hoffi 'mix and match', fel gwisgo top o Primark a throwsus o Topshop neu o rywle drud.

Fy nghyngor i fyddai i drio pethau 'mlaen cyn gwneud eich dewis. A pheidio â gwisgo brown a du efo'i gilydd! Mae'r ddau liw yn rhy dywyll. Mae caramel a du yn iawn, ta beth.

Y pethau nesa' ar fy rhestr siopa ydy gwasgod newydd a bag metaleg.

Yn fy marn i y bobl mwya' ffasiynol ar hyn o bryd ydy Kate Moss, Mary Kate Olsen, Mischa Barton a Lindsay Lohan.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý