ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Newid byd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Arian

Arian

Pethau da am gael cyfrif banc Cyfrif banc cyfredol yw'r math mwya cyffredin. Mae cael cyfrif cyfredol yn meddwl y byddi di'n gallu defnyddio'r twll yn y wal, trosglwyddo arian, talu am bethau trwy ddebyd uniongyrchol ac ennill llog ar dy arian. Ac os wyt ti'n lwcus iawn, falle gei di gyfrifiannell am ddim pan fyddi di'n ymuno â'r banc! ;)

Oes rhaid talu? Ym Mhrydain does dim tâl am agor y rhan fwya o gyfrifon banc. Ond bydd y banc yn codi tâl os byddi di'n mynd i ddyled (drwy wario mwy o arian nag sydd yn y cyfrif).

  • Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth (Citizen Advice) yn delio â 5,300 o broblemau'n ymwneud â dyled bob dydd. Credit action
Sut i gael un
  • Galli di agor cyfrif cyfredol pan fyddi di'n 11 oed, ond rhaid i ti gael caniatâd rhiant os wyt ti dan 16 oed.
  • Chwilia am y fargen orau. Wrth gwrs, byddai cael chwaraewr MP3 yn neis iawn, ond falle byddai bancio ar-lein, gallu cael gafael ar dy arian unrhyw bryd a cherdyn debyd yn fwy defnyddiol yn y pen draw.
  • Cer mewn i gangen leol pa bynnag fanc rwyt ti'n ei ddewis a threfna agor cyfrif gyda nhw. Mae'n werth ffonio neu edrych ar eu gwefan yn gynta i weld pa fath o ddogfennau adnabod (ID) y bydd eu hangen arnot ti.
  • Bydd rhaid i ti fod dros 18 oed i ddefnyddio'r rhan fwya o gyfrifon banc sydd ar gael ar y rhyngrwyd yn unig.

Cardiau debyd, gorddrafftiau, benthyciadau (loans)...

  • Rhaid i ti fod yn 16 oed i gael cerdyn debyd (i'w ddefnyddio i dalu am bethau mewn siopau).
  • Rhaid i ti fod yn 18 oed i gael cyfleuster gorddrafft (overdraft facility) neu fenthyciad.

Cyfrifon cynilo (savings accounts)

  • Os oes swm mawr o arian 'da ti neu os wyt ti ishe safio i brynu rhywbeth, bydd cyfrif cynilo yn talu llawer mwy o log na chyfrif cyfredol.
  • Mae'r rhan fwya o fanciau'n cynnig cyfrifon cynilo. Fel arall, gallet ti ystyried Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (National Savings and Investments), neu os wyt ti dros 16 gallet ti ystyried Cyfrif Cynilo Unigol (ISA). Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael ar wefan directgov, clicia ar y linc isod.
Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý