ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Amdanat ti

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Pam gwirfoddoli? Mae gwirfoddoli yn helpu pobol eraill, yn gwneud i ti deimlo'n dda, ac yn edrych yn grêt ar dy CV. A galli di ddewis faint o amser rwyt ti'n ei roi i wirfoddoli, felly does dim rhaid i ti addo gwneud gormod.

Beth i'w wneud...

  • Cyn cysylltu â mudiadau gwirfoddol, meddylia am beth hoffet ti wneud, pam hoffet ti ei wneud e', a faint o amser y gallet ti roi.
  • Fyddet ti'n hoffi mynd i weld hen berson unwaith yr wythnos - gwneud ei siopa a chadw cwmni iddo am awr? Neu weithio mewn siop elusen? Neu helpu mewn cynllun chwarae yn ystod y gwyliau? Neu mewn canolfan sy'n gofalu am anifeiliaid? Sdim ots pa sgiliau sydd 'da ti na beth yw dy ddiddordebau di, mae'n siŵr y bydd yna waith gwirfoddol sy'n dy siwtio di.
  • Chwilia am gyfleoedd ar y wefan do-it.org.uk, neu drwy'r Ganolfan Wirfoddoli leol, mae lincs ar gael ar waelod y dudalen.
  • Os wyt ti dan 16 bydd llai o ddewis ar gael i ti gan fod rhai llefydd yn methu cael yswiriant ar gyfer pobol ifanc dan 16 oed.
    • Mae pobol rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith gwirfoddol nag unrhyw grŵp oedran arall. Time Bank
    Fydda i'n cael fy nhalu? Wel, na, dyna'r holl bwynt - gwaith gwirfoddol yw e. Ond, dylet ti gael arian i dalu am dy ginio a dy gostau teithio.

    Rwy methu ffeindio unrhyw beth rwy'n teimlo'n frwdfrydig amdano yn fy ardal i... Beth am fod yn entrepreneur cymdeithasol a dechrau dy grŵp dy hun. Mae gwefan Rhwydwaith Gweithredu yn y Gymuned yn egluro sut galli di wneud hyn ac mae linc i'r wefan ar waelod y dudalen.

    Cysylltiadau defnyddiol

    Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý