ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Newid byd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Sut mae bod mwy gwyrdd?

Sut mae bod mwy gwyrdd?


Sut mae bod yn fwy gwyrdd? Dyma syniadau Mosgito...

  • Beth am gerdded i'r dref gyda ffrind yn lle dal bws?
  • Cofia ddiffodd pob switsh os nad wyt ti yn yr ystafell.
  • Os wyt ti'n gwneud paned o de i ti dy hun, paid â llenwi'r tegell yn llawn. Mae hyn yn gwastraffu trydan.
  • Cofia wneud yn siŵr nad wyt ti'n gadael y teledu a'r peiriant DVD ar 'stand-by'.
  • Ailgylcha a dweud wrth bawb arall am wneud hynny hefyd.
  • Ceisia fwyta bwyd lleol am nad oes yna 'filltiroedd bwyd' mawr yn perthyn iddyn nhw.
  • Tro'r gwres canolog i lawr ryw ychydig yn y tÅ· (cofia holi dy fam neu dad am ganiatâd!). Bydd newid bach iawn yng ngwres y tÅ· yn cael effaith fawr ar y blaned.
  • Mae hedfan yn ofnadwy o wael i'r amgylchedd. Ceisia dy orau glas i fynd ar wyliau yng Nghymru.
  • Cer ar y trên ac ar y bws cyn teithio mewn car.

Barn bobl enwog am y blaned

Seren y Sîn Roc - Steffan Cravos "Dw i'n ymdrechu i fod yn fwy gwyrdd trwy ailgylchu gymaint ag sy'n bosib. Mae'n bwysig gwahanu gwahanol eitemau oddi wrth ei gilydd. Gwahanu'r tun, yr alwminiwm, y gwydr gwyrdd, y gwydr clir, y papur a'r plastig. Dw i hefyd yn golchi popeth yn ofalus am fod hyn yn hwyluso'r broses o ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu."

Canwr a chyfansoddwr o fri - Gwilym Morus "Mae Indiaid America yn credu y dylai pob cenhedlaeth baratoi i sicrhau bywyd a bywoliaeth i'r saith cenhedlaeth sydd yn dod ar eu holau. Tydan ni ddim hyd yn oed yn sicrhau'r gyntaf ar hyn o bryd ac mae angen i hyn newid. Hefyd, mae'n rhaid cofio nad ni sy bia'r blaned. Cywirach fysa deud mai hi sy bia ni."

Mwy gan Mosgito ... Yn syml, mae newidiadau bychain gennyt ti yn golygu newid mawr i bawb ar y blaned. Felly bwr ati i fod yn fwy gwyrdd!

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý