ÃÛÑ¿´«Ã½

Explore the ÃÛÑ¿´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruMosgito, Newid byd

ÃÛÑ¿´«Ã½ ÃÛÑ¿´«Ã½page
Cymru'r Byd

Contact Us

Swydd dros dro

Swydd dros dro

Mae'r syniad yn frawychus. Cyfarfod pobl newydd, gwneud pethau dwyt ti ddim wedi eu gwneud o'r blaen, codi am saith y bore yn ystod dy wyliau. Felly beth yn union yw'r manteision o gael swydd dros dro? Bu Mosgito'n holi Catrin Heledd, cyflwynwraig y rhaglen Ffeil i weld beth oedd ei phrofiadau hi yn ei swydd gyntaf.

Mosgito: Beth oedd dy swydd gyntaf di yn dy arddegau? Catrin Heledd: Fy swydd gyntaf i oedd bod yn weinyddes mewn caffi yn Amgueddfa Sain Ffagan. Roeddwn i'n lwcus fod criw ohonon ni'n gweithio yno. Ambell ffrind ysgol, ac ambell ffrind o'r pentref. Fe weithiais i yno dros gyfnod o dair blynedd tra mod i yn yr ysgol.

Mosgito: Dywed ychydig wrthon ni am dy brofiadau di'n gweithio yn y caffi. Catrin Heledd: Caffi'n cynnig tê traddodiadol Cymreig oedd e, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef mai dyna oedd y swydd waethaf yn y byd.

Ond, wedi dweud hynny, fi oedd yn gyfrifol am y beic hufen iâ hefyd, ac roedd hynny'n waeth byth. Roeddwn i'n sefyll yno yn yr haul, gyda phob gwenynen yn Sain Ffagan yn dod i gael blas ar yr hufen iâ. Ar ben hyn, roedd yr haul yn toddi'r hufen iâ. Hunllef llwyr.

Munud i feddwl Mosgito

  • Nid pawb sy'n hoffi'r syniad o weini mewn caffi neu wneud rhywbeth cyhoeddus fel gwnaeth Catrin Heledd ond mae yna swyddi rhan-amser ar gael sy'n apelio at bawb. Ac os nad wyt ti'n llwyddiannus yn cael y swydd gyntaf i ti drio amdani, dal ati. Mae'n digwydd i'r gorau ohonon ni.
Mosgito: Pa mor werthfawr oedd y profiadau hyn i ti? Catrin Heledd: Wel, er mod i'n cwyno, fe ges i amseroedd gwych yno.

Mae unrhyw swydd pan wyt ti'n ifanc yn dy ddysgu di i siarad a dod ymlaen gyda phobl newydd. Mae'n ychwanegu at dy hyder di ac mae'n rhoi cyfle i ti gyfarfod gyda phobl gwahanol i ti. Yn fwy na dim, rwyt ti'n cael blas ar annibyniaeth ac yn ennill ychydig o arian!

Mosgito: Beth fyddai dy gyngor di i bobl ifanc heddiw? Catrin Heledd: Mae unrhyw swydd dros dro yn sioc i'r system i ddechrau. Ond, o ddal ati, fe fyddi di'n dechrau mwynhau. Wrth gwrs, dyw popeth ddim yn fêl i gyd, ond ar ôl ychydig fe fydd y pethau da am y swydd yn taflu cysgod dros unrhyw beth negyddol.

Ac wrth gwrs, mae pob swydd rwyt ti'n ei gwneud yn brofiad, yn ogystal â bod yn ddefnyddiol ar gyfer dy C.V.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the ÃÛÑ¿´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý