
Iaith y corff Ma'r cliwiau i gyd yn y corff. Bydd y ffordd ma' bobl yn bihafio o dy gwmpas di yn dweud lot.
Ma' cael rhywun yn troi'i gorff tuag ato ti o hyd, hyd yn oed pan fyddwch chi mewn grŵp mawr, neu yn ffeindio unrhyw esgus i dy gyffwrdd di drwy'r amser yn arwyddion eitha da bo' nhw'n ffansïo ti. Ond falle na fyddan nhw'n sylweddoli hynny eu hunain eto.
- Pan ma' bechgyn yn ffansïo rhywun, ma' nhw'n chwarae gyda'u clustiau.
ÃÛÑ¿´«Ã½ h2g2
Weithiau, ma' beth ma' rhywun yn gwneud yn dangos mwy na beth ma' nhw'n dweud.
Dyw pobol ddim wastad yn barod i gyfadde' os ydyn nhw'n ffansïo rhywun.
Bydd rhaid i ti wneud bach o waith ditectif ac edrych am y cliwiau (sydd weithiau'n ddigon amlwg!).
Bydd rhai o'r arwyddion hyn yn bethau da. Os oes rhywun yn ffansïo ti, byddan nhw'n barod i roi benthyg pethau i ti a byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti hala amser gyda nhw a'u ffrindiau.
Ond bydd rhai o'r arwyddion eraill ddim mor grêt, fel cael rhywun sy'n ffansïo ti yn llawn sŵn a sbeng o dy gwmpas di ac yn tynnu dy goes di drwy'r amser. Ond cymera fe fel compliment, jyst moyn dy sylw di ma' nhw.
Allan nhw ddim help bo' nhw'n meddwl bo' ti'n grêt Ma' nhw ishe gwbod be' ti'n neud drwy'r dydd bob dydd. Os nad wyt ti ar hyd lle ma' nhw'n gofyn cant a mil o gwestiynau i dy ffrindiau di. Ac os wyt ti ar hyd lle ti'n cael galwadau ffôn a tecsts drwy'r amser.
Paid â bod yn rhy grac. Ma' nhw jyst ishe dod i dy nabod di'n well, a gweld os wyt ti ar ôl unrhyw un arall. A rhag ofn bo' ti ddim yn siŵr o hyd - ydyn, ma' nhw'n meddwl bo ti'n ffab.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.