
Pryd ddylen i fynd i weld y meddyg? Os wyt ti'n teimlo'n sâl a ddim yn siŵr beth sy'n bod; os wyt ti wedi cael unrhyw symptomau am bythefnos neu fwy; neu os wyt ti'n becso am dy iechyd. Galli di fynd i weld y meddyg os wyt ti'n teimlo'n isel hefyd.
Oes rhaid i fi ddweud wrth mam a dad?
Na - bydd popeth rwyt ti'n ei ddweud wrth y meddyg yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Ond bydd y meddyg yn dweud wrth rywun arall os yw e' neu hi'n meddwl bo' ti mewn perygl.Sut mae gwneud apwyntiad
- Ffonia'r feddygfa neu cer mewn i wneud apwyntiad. Rho dy enw, a dwed bo' ti am wneud apwyntiad i weld meddyg.
- Galli di ddod o hyd i'r feddygfa agosa trwy edrych ar wefan
- Os wyt ti am weld meddyg sy'n fenyw neu gael apwyntiad ar ôl ysgol, dwed hynny.
- Paid synnu os na fyddi di'n gallu cael apwyntiad am sawl wythnos.
- Os wyt ti'n teimlo'n sâl iawn, gofynna pryd mae'r feddygfa ar agor i achosion brys. Hynny yw, yr amserau y galli di fynd i'r feddygfa ac aros nes bod y meddyg yn rhydd.
- Os wyt ti'n teimlo'n rhy sâl i fynd i'r feddygfa, gofynna i'r meddyg ddod i dy weld di gartre.
Beth os ydw i'n rhy swil i ddweud beth sy'n bod? Does dim angen i ti deimlo'n swil. Mae meddygon wedi gweld a chlywed popeth, a dyn nhw byth yn teimlo'n anghyfforddus. Os wyt ti'n swil iawn, dwed hynny wrth y meddyg a bydd e'n gwneud ei orau glas i helpu ti i ymlacio.
Falle byddai'n werth i ti ysgrifennu rhestr o gwestiynau i'w gofyn i'r meddyg fel bo' ti ddim yn anghofio unrhyw beth ac yn cael ateb i'r holl bethau sy'n dy boeni di.
Cysylltiadau defnyddiol
Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.