 |
 |
Tywydd gwell wedi trochfa
Ac yntau wedi gwlychu at ei groen am y trydydd tro y bore hwnnw ar ei fferm yn Llannerchymedd, daeth Geraint Evans i'r casgliad fod bywyd gwell i'w gael rywle arall.
|
Yn hytrach na breuddwydio am y bywyd hwnnw, ymgynghorodd Geraint â'i deulu a gwneud penderfyniad a wyrdrôdd eu bywydau - gwerthu'r eiddo a'r tir a symud i ben draw'r byd yn Seland Newydd. Dyma un o'r straeon a adroddodd wrth Hywel Gwynfryn pan ymwelodd ag ef ar gyfer rhifyn Ebrill 27, 2003 o'r gyfres Ar Dy Feic gan ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ar S4C.
Erbyn hyn mae Geraint a'i wraig Sonia yn byw ar fferm fechan 20 acer ac yn rhedeg motel yn Whangarei, Ynys y Gogledd, Seland Newydd, gyda'u merch fach Megan sy'n bedair oed.
Bedydd tân I'w galluogi i wneud hyn bu'n rhaid gwerthu dwy fferm y teulu, Cae Mawr a Thai Hirion yn Sir Fôn. Wedi cyrraedd Seland Newydd, roedd bedydd tân yn eu disgwyl wrth iddyn nhw orfod dechrau ar y gwaith o redeg motel yn syth, heb ddim profiad o wneud y ffasiwn beth o'r blaen - a hithau yn dymor prysur, y Nadolig, ynghanol eu haf hwy.
Erbyn hyn mae ganddyn nhw reolwr, sy'n sicrhau bywyd tawelach iddyn nhw a hwnnw'n fywyd gwahanol iawn i'r hyn ydoedd ym Môn - ond yn fywyd braf.
Colli nos Wener! Dwi'n colli nos Wener i drafod hefo'r hogiau yn Nhafarn y Rhos a ballu'n de! Y pris rydan ni'n dalu ydi colli petha felly. Ond ar ôl deud hynny, dydan ni ddim yn gorfod wynebu'r dyddiau sy'n fyr, y diwrnodau lle mae'n bwrw glaw drwy'r dydd. Dwi'n lwcus ofnadwy.
Yn ystod ei ymweliad aeth Hywel gyda Geraint i weld Nesta o Gricieth sydd wedi priodi Andy o Seland Newydd.
Mae ganddyn nhw dri o blant, ac yn falch o gwmni Cymraeg Geraint a Sonia.
Dianc rhag y ddiod Cyfarfu hefyd â Paul Francis o Fethesda, sy'n rhedeg busnes sgaffaldio llwyddiannus. Wedi damwain ddrwg, aeth trwy amser caled o yfed yn drwm i foddi'r boen. Mae'n dweud i'w fywyd newydd yn Seland Newydd achub ei fywyd.
'Swn i di aros yn Bethesda 'swn i 'di yfed fy hun i farwolaeth neu 'sa 'na rhywbeth wedi digwydd i fi, meddai.

|
|