Pan ydych yn byw dramor mae ymweliadau "adref" yn hyfryd - a blinedig.
Dechreuodd ein trip gyda phenwythnos gyffrous yn Llundain yn gwylio fy chwaer yng nghyfraith, Sioned, yn cystadlu yn "showdown" Can't Sing Singers ar ÃÛÑ¿´«Ã½ 1.
Cynrychioli Caerdydd yn erbyn Llundain, Lerpwl a Birmingham oedd Sioncs ac wedi cyflawni gwyrthiau gyda'r grŵp o gantorion fu hi'n eu dysgu.
Wyddai hi ddim fod Rod yn hedfan nôl i Brydain hefyd felly pan gafodd gip arno yn y gynulleidfa bu bron iddi a chael haint, druan.
Roedd y cystadlu yn frwd a wedi'r pleidleisio cyhoeddodd cyflwynwraig y sioe, Lorraine Kelly, mai Birmingham gipiodd y wobr gyntaf.
Serch hynny, dim ond deg pleidlais oedd rhwng Caerdydd a Birmingham felly fe wnaeth criw Sioned yn rhagorol.
Ciciwr pêl i'r dyfodol Wedi penwythnos o joio yn Llundain roedd hi'n bryd bwrw am yr oerni go iawn yn yr Alban gan aros gyda fy chwaer, Lowri, ei gŵr John a'r plant, Beca Lia a Joni.
Roedd hi'n dipyn o sioc cyrraedd Glasgow a hithau wedi bod tua 23 gradd yn HK ond yn braf treulio amser gyda'r rhai bach a rhyfeddu gymaint mae plentyn newid mewn saith mis.
Mae Joni, sy'n ddwy, yn chwarae pêl-droed gystal â phlentyn chwech oed erbyn hyn a'i sgiliau da'r bêl yn gwbl anghredadwy.
Os na fydd y plentyn 'hwn yn chwarae i Gymru, fel ei dad, ac yn bêl-droediwr proffesiynol fydd yna'r un plentyn yn gwneud hynny.
Diwrnod hudolus Wedi ffarwelio â'r criw Albanaidd, roedd hi'n fater o neidio ar awyren arall i Gaerdydd cyn gwneud ein ffordd lawr i Landysul ar gyfer y Nadolig ei hun.
Roedd y diwrnod yn gwbl hudolus gyda llwyth o eira fel pe byddem mewn ffilm o Hollywood!!
Clywed am y dinistr Ond erbyn deffro bore trannoeth roedd yr awyrgylch yn gwbwl wahanol wrth gwrs wedi inni glywed am y dinistr yn Asia.
Roeddem yn teimlo'n hollol syfrdan wrth wylio'r lluniau ar y teledu a gwyddwn am sawl person o HK oedd yn treulio'r Nadolig yn Indonesia a Thailand.
Wedi sawl neges destun roeddwn yn falch o glywed eu bod nhw'n saff.
Serch hynny, roedd ein calonnau ninnau, fel gweddill y byd, yn gwaedu am y rheini oedd yn dioddef.
Wedi dod nôl i HK fe darodd y sefyllfa fi hyd yn oed yn waeth.
Roeddwn yn cyflwyno sioe ar radio. 3 ar dydd Calan o naw tan un gyda'r prif westai, Nury Vittachi, yn dod o Sri Lanka ac yn adnabod sawl person oedd wedi colli ei fywyd yno.
Wrth gwrs, roedd hi'n gwbwl amhosib cyflwyno sioe hapus yn llawn o hwyl a sbri y calan gyda'r fath ddigwyddiad ar riniog ein drws.
Mae athrawon Ela (pump i gyd) hefyd yn dod o Sri Lanka ac, yn naturiol ddigon, roeddem ni rieni plant yn poeni'n ddifrifol am eu diogelwch.
Diolch i'r drefn dychwelodd pawb yn ddiogel i HK.
Straeon erchyll Ar y llaw arall, mae straeon erchyll yn eich cyrraedd yn ddyddiol.
Gan fod Thailand mor agos i HK mae'n lle poblogaidd dros ben ar gyfer ex-pats - yn enwedig dros gyfnod Nadolig a'r Calan Chineaidd.
Clywais ddoe am deulu Ffrengig o dad, mam a phum plentyn o Stanley wedi mynd am y Dolig - ond dim ond mab 12 oed achubwyd rhag y tsunami!
Ac nid oes amheuaeth y bydd myrdd o straeon tebyg yn ein taro dros y dyddiau nesaf.
Gall natur fod yn greulon iawn weithiau.
Ar drothwy blwyddyn newydd fel hyn ni allaf ond gweddio a gobeithio y caiff y bobl hyn i ail afael yn eu bywydau a dod drwyddi.
Falle na welwn ni mo hynny'n digwydd yn ystod ei hoes ni - ond fe ddown nhw drwyddi.

|