Jason Mohammad, wyneb cyfarwydd ar deledu'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yng Nghymru, ydi Llywydd y Dydd, heddiw.
Wrth dderbyn yr anrhydedd talodd deyrnged i weithgarwch yr Urdd ymhlith pobl ifainc.
"Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy newis gan yr Urdd i fod yn Llywydd y Dydd eleni," meddai.
"Mae cyfraniad yr Urdd a'r Eisteddfod yn enfawr i fywyd Cymru ac mae'r Eisteddfod yn rhoi cyfle i blant o bob oed a chefndir i ddod i'r brig ac arddangos eu talentau.
"Fel tad, gallaf werthfawrogi pa mor bwysig yw hi i annog plant i fod yn rhan o rywbeth sy'n rhoi cymaint o fudd a hunanhyder iddynt."
Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, aeth Jason ymlaen i astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Wedi graddio, dychwelodd i'r brifddinas i astudio cwrs ôl raddedig mewn Newyddiaduraeth.
Ymunodd Jason â ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru ym 1997, ac mae wedi bod yn darlledu ac yn cyflwyno fyth oddi ar hynny. Gweithiodd fel gohebydd ar gyfer Wales Today yng ngogledd Cymru, mae wedi ffilmio cyfres o eitemau yn Ne Affrica, Efrog Newydd ac yn fwy diweddar o Awstralia yn ystod Gemau'r Gymanwlad yno.
Jason yw un o gyflwynwyr newyddion a chwaraeon mwyaf profiadol ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru. Mae wedi cyflwyno Wales Today, Sports Wales, chwaraeon byw yn ogystal â'r rhaglen rygbi boblogaidd, Scrum V.
Mae ganddo ddiddordeb mawr ym maes chwaraeon ac wedi gohebu o sawl cystadleuaeth amlwg fel Cwpan Ryder, Cwpan yr FA yn ogystal â'r frwydr rhwng Joe Calzaghe a Bernard Hopkins yn Las Vegas.
Bu hefyd yn cyflwyno rhaglen Plant Mewn Angen y ÃÛÑ¿´«Ã½ a rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn ÃÛÑ¿´«Ã½. Mae hefyd i'w glywed yn cyflwyno Good Morning Wales ac ef yw capten y gystadleuaeth gwis chwaraeon ysgafn Extra Time ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales.
Fel actor mae wedi ymddangos yn Doctor Who ddwywaith, yn fwyaf diweddar ym mhennod Nadolig 2007, lle bu'n cadw cwmni i David Tennant a Kylie Minogue, tra'n chwarae rhan y gohebydd newyddion.
Yn ei amser rhydd, mae wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i wraig, a'i blant, Lilly a Max, a chefnogi ei hoff dîm pêl-droed, Clwb Caerdydd.