Seindorf a sêr yn agor yr Eisteddfod
Fe ddangosodd Ynys Môn pam ei bod yn cael ei galw yn Wlad y Medra nos Sul yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2004.
Daeth rhai o brif artistiaid yr ynys i'r llwyfan i roi gwledd o gerddoriaeth - o'r offerynnol i'r lleisiol, yn gorau ac unigolion.
Roedd y noson hefyd yn rhyw fath o gyngerdd-dod-adref i'r tenor Gwyn Hughes Jones sydd newydd ddychwelyd o dreulio chwe mis yn America ac a oedd yn amlwg yn teimlo'n gartrefol iawn o flaen cynulleidfa gyfarwydd.
"Pwy yma sydd DDIM yn perthyn imi?!" gofynnodd wedi'r gymeradwyaeth wresog gafodd i'w gân gyntaf, Gwlad y Delyn - y gyntaf o dair cân â blas lleol a agorodd ei berfformiad.
Ond fyddai ddim ots pe bai'r tenor o Lanbedrgoch yn dod o Timbuktu - yr un fyddai'r derbyniad wedi bod, yn enwedig pan aeth ymlaen i ganu dwy aria Eidalaidd, gan Tosti a Puccini, a'r ffefrynnau Arafa Don a Chymru Annwyl, gan daro'r nodau top yn nerthol bob tro.
Do, fe blesiodd ei repertoir, fel ag y plesiodd chwarae'r pianydd Iwan Llewelyn-Jones hefyd. Fe gafwyd y tincial tawel a theimladwy ganddo yn Etude yn E fwyaf Chopin ac yn Clair de lune. Ac yna, newid llwyr pan ddechreuodd ei fysedd ddawnsio drwy Toccata ac, yn nes ymlaen, Boogie Woogie Llanoogie, darn a ysgrifenwyd ar ei gyfer gan y cyfansoddwr Karl Jenkins.
Er bod sgrîn fawr yn caniatau i'r gynulleidfa gael golwg fanylach ar ei fysedd yn llithro dros y nodau, roedd hi'n dal bron yn amhosib gweld yn union sut roedd yn creu'r hud a'r lledrith ar yr ifori gan mor gyflym roedd o'n symud ar hyd yr allweddau.
Ond cyn i'r ddau seren byd-eang yma ddod i'r llwyfan roedd y safon wedi'i osod o'r dechrau un pan agorwyd y cyngerdd yn llawn afiaith gan Seindorf Biwmares (uchod).
Yn lliwgar o ran edrychiad ac o ran ysbryd, mae rhywbeth bywiog, hwyliog a heintus am y band yma sydd â thros 150 o aelodau ifanc lleol yn chwarae iddo erbyn hyn.
Os cafwyd y clasurol gan Gwyn Hughes Jones ac Iwan Llewelyn-Jones, fe roddodd y band gyfuniad o jazz, salsa a sŵn 'big band' - i gyd wedi ei gyflwyno â gwên, a rhywfaint o ganu hefyd!
Newid cywair eto gafwyd gan Gôr Seiriol, Elin Fflur a Chôr Ysgolion Môn - Côr Seiriol yn swyno gyda darnau gan Karl Jenkins, eto, ac Elin Fflur yn perfformio gyda'i band fel rhan o'i thaith fawr dros yr haf. Dangosodd plant yr ynys hefyd fod dyfodol cerddorol yr ardal yn ddiogel gyda chaneuon fel Cân Llanddwyn, Nos Da a'r hyfryd Gwylio Sêr y Nos gydag Elin Fflur - cân wedi ei chyd-gyfansoddi ganddi.
Diweddodd y noson, wrth gwrs, gyda'r holl artistiaid yn dod at ei gilydd ar y llwyfan i ganu cân pencampwriaeth Cwpan y Byd, Byd o Heddwch. Wrth i bawb ei morio hi, roedd hi'n anodd peidio â sylwi ar waith caled adran daro'r Seindorf yn rhedeg o un offeryn taro i'r llall er mwyn sicrhau bod y symbalau'n tasgu a'r gong mawr yn atseinio ar benllanw'r gân.
Ac wedi dangos eu gwerthfawrogiad drwy godi ar eu traed, a chael eu gwobrwyo gan ddatganiad o Hafan Gobaith, fe aeth y gynulleidfa adref wedi eu pleisio a phobl Môn wedi gosod her i weddill Cymru am yr wythnos.