|  |
 Cerddi cofiadwy
Ofn anghofio profiadau a wnaeth i enillydd medal lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd ddechrau barddoni.
"Mi wnes i ddechrau sgwennu oherwydd fod gen i ofn anghofio pethau," meddai Mari Sion yn dilyn prif seremoni gyntaf yr eisteddfod ym Môn.
Dywedodd hefyd iddi anfon y cerddi a enillodd galon y beirniaid, Ceri Wyn Jones a Sonia Edwards, i'r gystadleuaeth er mwyn cael barn ddiduedd rhwyun na wyddai pwy oedd yr awdur.
"Mi benderfynais i fy mod i eisiau gwneud rhywbeth efo nhw," meddai am y 14 o gerddi a gyfansoddi dros gyfnod o amser.
"Ac yr oedd cystadleuaeth yn ffordd i'w dangos nhw i bobl heb iddyn nhw wybod pwy oeddwn i a theimlo fod yn rhaid iddyn nhw ddweud petha neis," meddai.
Ac ni allai unrhyw fardd ifanc fod wedi gobeithio am well ymateb na'r hyn a gafwyd gan Ceri Wyn Jones yn traddodi'r feirniadaeth oddi ar lwyfan y brifwyl.
"Cyfrol o gerddi sy'n llwyr argyhoeddi," meddai gan ychwanegu, "Dyma fardd o'r iawn ryw. Mae yma waith aeddfed a sensitif ac mae'r dweud yn hudolus ar brydiau . . . Medda ar y 'peth' anniffiniol hwnnw sy'n treiddio i synhwyrusrwydd dyn a'i swyno."
Yn dair ar hugain oed ganed Mari yng Nglyn Ceiriog lle'r oedd ei thad yn weinidog a dywedodd mai un o awduron y Dyffryn Ceiriog a fu'n ysbrydoliaeth iddi sgrifennu.
"Pan fyddai Irma Chillton yn cyhoeddi llyfr newydd byddai'n rhoi copi i mi ac rwy'n credu i hynny fod yn annogaeth dawel i mi ymddiddori mewn sgwennu," meddai.
Sbadun pellach fu ymweliad y tri bardd, Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafyd ac Eleanor Wyn Rowlands, a'i hysgol i gynnal gweithdy barddoniaeth a'i hargyhoeddi am y tro cyntaf fod sgrifennu barddoniaeth yn rhywbeth y gallai hi roi cynnig arno. .

Ond yr ofn i brofiadau gwerthfawr fynd yn anghof fu'r anogaeth fwyaf, meddai, a phrofiadau a gafodd mewn sawl gwlad yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Yr Eidal a Lesoto yw cynnwys rhai o gerddi'r gystadleuaeth.
Dywedodd i'w mis yn Lesotho wneud argraff arbennig arni.
"Yr oedd yn lle mor wahanol a'r bobl yn arbennig. Dydw i erioed wedi cael croreso mor gynnes yn unman - ac maen nhw yn canu'n lot gwell na ni. Roeddan nhw'n tueddu i chwerthin pan oeddem ni yn canu!" meddai.
Symudodd Mari a'r teulu i fyw ym Mangor pan oedd hi'n 11 oed a chafodd weddill ei haddysg yn Ysgol Tryfan ac enillodd MA mewn gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gynorthwydd personol i un o aelodau Plaid Cymru yn y Cynulliad, Leanne Wood.
Mae ei thad, John Roberts, yn gynhyrchydd rhaglenni crefyddol gyda'r ÃÛÑ¿´«Ã½ ym Mangor. Bu ei mam, Janet, yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bodedern ac mae'n awr yn gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd.
Ffugenw Mari yn y gystadleuaeth oedd Ededa J ar ôl y siop ddillad yn Llambedr Pont Steffan.
Datgelodd fod y dewis o ffugenw rhwng hyn a B. J. Jones - yr unig ddwy hysbyseb Gymraeg a welodd ar y teledu. "Ac mi ddewisiais i Ededa J - does wybod ella y ca i nawdd ganddyn nhw," meddai gan chwerthin
![]()
|
|
|