|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Pwyliaid Penley |
 |
Bywyd yn y gwersyll
 © Y teulu Mazurek | Yn y dechrau roedd amodau yn y gwersyll yn anodd i’r mewnfudwyr. Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd yn byw mewn llety oedd yn cael ei rannu yn y barics. Teulu Andy oedd yr unig un â thoiled dan do – rhywbeth â’i gosododd nhw ar wahân i weddill y gymuned.
Ymhen amser fe wellodd y cyfleusterau, ac fel y dywed Andy, “Doedd dim angen i ni adael y gwersyll ar gyfer unrhyw beth – hyd yn oed ysgol uwchradd, gan fod yna ysgol arbrofol yn y gwersyll – ysgol gyfochrol, a oedd ag un rhan yn uwchradd fodern a rhan arall yn ramadeg.” Yn ogystal â’r ysgolion, roedd yna gapel, theatr, sinema, siop, ffreutur a chlwb cymdeithasol yn y gwersyll.
 © A Bereza | Roedd y clwb cymdeithasol yn chwarae rhan sylweddol yn y gymuned, fel canolbwynt i ddathliadau traddodiadol Pwylaidd, casgliadau a gweithgareddau teuluol. Roedd eu partïon yn enwog ymhlith y cymunedau Pwylaidd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr. Deuai pobl Bwylaidd o bell ac agos, yn enwedig ar gyfer Sylwester – yr enw Pwylaidd am Nos Galan – a ddathlwyd trwy gynnal dawns fawreddog.
Roedd dathliadau Crefyddol hefyd yn anhepgorol i’r gymuned. C âi capel y gwersyll ei addurno â gwaith celf wedi ei greu gan y cleifion a’r preswylwyr, ac fe fyddai’n cynnwys reredos – darlun pedair troedfedd o uchder oedd yn sefyll y tu ôl i’r allor.  © A Bereza | Byddai offeiriad
preswyl yn gwasanaethu’r gynulleidfa yn y blynyddoedd cynnar a byddai’r Esgob lleol yn ymuno yn y gwyliau Nadolig a Phasg.
Roedd y mewnfudwyr wedi trosglwyddo strwythur cymdeithasol a diwylliant o’r Wlad Pwyl a oedd yn bodoli cyn y rhyfel i mewn i’r gwersyll. Gwnaeth Andy’r sylw ei fod “yn dalp cofiadwy o Wlad Pwyl cyn y rhyfel wedi ei stwffio i mewn i Ogledd Cymru”.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|