|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Twm Siôn Cati - Y Robin Hood Cymreig |
 |
 Cafodd y cartðnau hyn eu cynhyrchu gan y Western Mail i hybu’r gyfres gyhoeddon nhw yn y 1940au hwyr i’r 1950au cynnar. (Llun trwy garedigrwydd Yvonne Wigg) | Llwyddodd ei anturiaethau cynnar ennill cryn enw drwg iddo, a'r atgofion am y rhain ffurfiodd y sail i'r syniad poblogaidd amdano fel Twm Sion Cati - y lleidr. Gan roi chwedl heibio, sicrhaodd Thomas Jones, y dyn, enw mwy parchus fel Ustus Heddwch, landlord, bardd a hanesydd, yn fwyaf arbennig am ei wybodaeth am achau a herodraeth, a chafodd ei ddisgrifio gan ei gydoeswr, Dr John Davies Rhys, fel "y bardd-herodr enwocaf, mwyaf cyflawn a’r mwyaf cywir o’i gyfnod" (Rhys, ‘Gramadeg y Gymraeg’ 1592).
Er cynifer o gerddi, storïau a dramâu a ysgrifennwyd am anturiaethau Twm, nid yw wedi ennill a chynnal yr un radd o enwogrwydd a'i gyfatebwr Saesneg, Robin Hood. Does dim un ffilm o Hollywood yn dangos gweithgareddau Twm, a does dim diwydiant twristiaeth wedi tyfu o gwmpas ei fan geni. Efallai bod hyn oherwydd nad oedd ganddo unrhyw anturiaethau'n ymwneud â ffigurau Brenhinol, na chefndir bonheddig, fel oedd gan Robin Hood.
Mae'n bosibl, oherwydd ei fod yn berson real gyda hanes wedi ei ddogfennu, ni allai'r mythau a dyfodd o'i gwmpas â chynhyrchu chwedl gyfansawdd am yr 'herwr-â-chalon' gwych hwn, ond roedden nhw wedi llwyddo i ymgorffori'r dyn aml-ffased gwirioneddol.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|