|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Bwcle – Llestri a Llafar |
 |
 Jar tybaco (sgraffito), a wnaed yng Nghrochendy Hayes, Bwcle (19eg ganrif) © Canolfan Treftadaeth Bwcle | Yn y 19eg Ganrif, roedd nifer o bobl o’r tu allan o’r siroedd ar y ffin a Swydd Stafford yn dal i symud i mewn i’r ardal, ond roedd prif ddiwydiannau Bwcle yn dechrau cwrdd ag anawsterau. Wrth gloddio am lo, gwelwyd bod nifer o’r gwythiennau wedi eu disbyddu, a daeth yn angenrheidiol i gloddio am lo mewn mannau tipyn dyfnach.
Roedd masgynhyrchu llestri a dysglau enamel, a datblygiad y system rheilffordd a wnaeth y nwyddau hyn yn haws eu cael, yn dechrau bod yn fygythiad i fusnesau llestri pridd Bwcle, - busnesau gâi eu rhedeg gan deuluoedd. Tynnodd dau Ryfel Byd yn yr 20ed Ganrif weithwyr i ffwrdd o Fwcle i’r rhengoedd blaen, gan leihau’r nifer o grochendai teuluol i ddim ond dyrnaid.
 'Mae’r dechneg sgraffito yn cael ei gynhyrchu trwy roi côt slip o glai hylif dros gorff y llestr cyfan. Pan fydd mor galed â lledr, caiff cynllun ei grafu trwodd i ddatgelu corff o liw cyferbyniol y llestr sydd oddi tano.’ © Canolfan Treftadaeth Bwcle | Parhaodd rhai crochendai fel Crochendy Hayes, a sefydlwyd ym 1740, i gynhyrchu crochenwaith Bwcle gan barhau yn eiddo i’r un teulu nes iddo gau yn y 1940au. Penderfynodd eraill, fel Crochendy Powell, y Crochendy mwyaf ym Mwcle hyd 1914, i newid eu llinell gynhyrchu i weithio mewn peirianneg a phlastigau.
Bu i Grochendy Sharret, a ddaeth i fod yn ‘The Art Pottery Co.’ ac yna J. Lamb & Sons gael ei gau yn gynnar yn y 1940au gan adael odyn o grochenwaith heb ei grasu. Daeth mab y perchennog yn ôl o’r rhyfel ym 1946, taniodd yr odyn gan grasu’r crochenwaith oedd ar ôl. Wedi iddo gael ei grasu, gwelwyd ei fod o ansawdd ardderchog, a dyma’r llwyth olaf o grochenwaith i gael ei gynhyrchu ym Mwcle.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|