|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
 |
 © ÃÛÑ¿´«Ã½ |
Yn wahanol i ardaloedd glofaol de Cymru a oedd yn ymledu yn ystod yr un cyfnod, doedd yr ardaloedd chwarelyddol ddim yn denu gweithlu o'r tu allan i Gymru i raddau helaeth, ond yn hytrach o ardaloedd gwledig gogledd-orllewin Cymru.
Y canlyniad oedd rhwydwaith o gymunedau a oedd i raddau helaeth yn Gymraeg eu hiaith, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Roedden nhw hefyd yn anghydffurfiol eu crefydd ac yn radical eu gwleidyddiaeth. Yn y cymunedau hynny roedd arian sbâr prin y bobl - a gâi ei gyfri mewn ceiniogau - yn mynd i adeiladu capeli ac i ariannu addysg gymunedol, yn fwyaf nodedig helpu i sefydlu Prifysgol Cymru.
Roedd y gwerthoedd hynny mor wahanol i rai perchnogion y chwareli, a oedd, i raddau helaeth, yn geidwadol, yn Saesneg eu hiaith ac yn Anglicanaidd. Roedd eu harian sbâr toreithiog - a gyfrwyd mewn miloedd - yn mynd ar fuddsoddiadau tramor neu ar brosiectau personol fel y castell Penrhyn ffantasi a adeiladwyd ar gyrion Bangor, ac sydd nawr yn adeilad nodedig o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd buddsoddiadau'r Arglwydd Penrhyn a oedd yr un mor llewyrchus mewn llechi Cymru ac mewn siwgr o'r Caribî wedi ei arwain i roi'r llysenwau 'Sugar' a 'Slate' i'w ferched Emma a Juliana.
 Cafodd cofadail ei chodi yma yn 2001 i gofio’r rhai a fu’n gwrthsefyll yr Arglwydd Penrhyn yn y “Cload Allan” yn ystod y streic. © ÃÛÑ¿´«Ã½ | Roedd yna eithriadau i'r rheol wrth gwrs. Roedd yn well gan nifer o chwarelwyr wario'u harian yn y dafarn yn hytrach nag ar gapeli, a doedd pob perchennog chwarel ddim yn rhydd o ysgogiadau dyngarol.
Ond roedd y llinellau bai rhwng y ddwy ochr mor ddwfn ac unrhyw raniad mewn strata daearegol, a doedden nhw ddim ond angen cynhyrfiad bychan i'w chwalu ar agor.
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|