|  |
 |
 |
 |
 |  |
 © ÃÛÑ¿´«Ã½
|
|  |  |
Achos y Cwrwgl |
 |
Yn ne-orllewin Cymru, mae'r cwch perffaith ar gyfer pysgota yn cael ei greu nawr yn union yr un ffordd ag yr oedd gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Yma, nid y cyflymdra y gallwch chi groesi'r afon yw'r flaenoriaeth ond pa mor sefydlog yw'r cwrwgl a pha mor hawdd ei drin ac effeithlon ydyw.
 © ÃÛÑ¿´«Ã½ | Mae siâp cyryglau yn ne-orllewin Cymru yn debyg i hanner cneuen Ffrengig neu wy Pasg. Mae'r blaen fflat yn rhoi'r lled mwyaf posibl i'r cwch sy’n galluogi'r pysgotwr i eistedd â'i goesau ar led, gan greu sefydlogrwydd gwell. Mae gwaelod gwastad i gwrwgl a does dim cilbren na llyw ganddo.
Mae angen dau gwrwgl i bysgota, un bob ochr i'r afon gyda rhwyd rhyngddyn nhw. Mae'n rhaid i'r triniwr ddal rhwyf mewn un llaw a'r rhwyd yn y llall, gan felly ddibynnu'n llwyr ar ei gydbwysedd i gadw'r cwch yn sefydlog. Pan fo eog neu sewin yn bwrw'r rhwyd, mae gwyr y cyryglau yn dod at ei gilydd, ac mae'r rhwyd yn cael ei halio dros flaen fflat y cwch.
Words: Martin Fowler
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|