Telerau Ac Amodau Gwranda Nei Di
Diweddarwyd y telerau yma ar y 13eg o Awst 2025.
Telerau Ac Amodau
Pwy sy’n gymwys
1. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sy’n 16 mlwydd oed neu hÅ·n, ac eithrio gweithwyr y ÃÛÑ¿´«Ã½, gweithwyr cwmni Grŵp y ÃÛÑ¿´«Ã½, eu perthnasoedd agos ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth. Gellir gofyn am brawf o oedran neu gymhwyster. Mae’r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw gystadleuydd neu enillydd sy’n torri’r rheolau hyn.
Sut i gystadlu
2. Bydd llinellau’r gystadleuaeth ar agor rhwng 09:15 a 10:30 ar foreau Iau yn ystod Rhaglen Aled Hughes (ac eithrio pan fo gofynion golygyddol yn arwain at newid yn yr amserlen neu newid yng nghynnwys y rhaglen).
3. Yn ystod y rhaglen hon, gwahoddir gwrandawyr i gysylltu â’r rhaglen ac ateb y cwestiwn cymhwyso a ofynnir gan y cyflwynydd drwy wneud y canlynol:
- 3.1. Ffonio'r rhif: 03703 500 500. Bydd cyfraddau daearyddol safonol yn berthnasol am alwadau o ffonau sefydlog a ffonau symudol, ac mae’n bosib eu bod wedi’u cynnwys ym mhecyn galwadau eich darparwr gwasanaethau ffôn. Gofynnwch am ganiatâd y sawl sy'n talu'r bil cyn ffonio.
- 3.2. Bydd y cwestiwn cymhwyso yn seiliedig ar y cynnwys sydd wedi ei ddarlledu ar Raglen Aled Hughes yn ystod yr wythnos honno.
4. Ni dderbynnir unrhyw ddull arall o gystadlu. Caniateir un cais yn unig i bob gwrandäwr ym mhob gystadleuaeth. Ni chaiff enillydd gymryd rhan yn y gystadleuaeth eto am 4 wythnos ar ôl ennill.
5. Dim ond yn ystod yr amseroedd a gyhoeddir ar yr awyr y mae’r gystadleuaeth yn agored. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir y tu allan i’r amseroedd hyn yn cael eu cofrestru. Gallai’r amseroedd agor a chau newid, felly gwrandewch ar gyhoeddiadau yn ystod y rhaglen.
6. Pan fydd gwrandawyr yn ffonio i gymryd rhan, bydd aelod o'r tîm cynhyrchu yn gofyn iddyn nhw am eu hateb i'r cwestiwn, eu henw, eu lleoliad a rhif ffôn cyswllt.
7. Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith y rhai a atebodd y cwestiwn cymhwyso yn gywir. Caiff yr ateb cywir i'r cwestiwn cymhwyso ac enw'r enillydd eu cyhoeddi ar y Rhaglen am oddeutu 10:45.
8. Rhaid i rif ffôn yr ymgeisydd fod yr un rhif â’r ffôn a ddefnyddir yn y broses gofrestru. Rhaid i’r ymgeisydd fod yn ymgeisio ar ei ran ei hun. Mae’r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ymgeisydd nad yw wedi cofrestru ar ei ffôn ei hun neu ar ei ran ei hun. Gall hyn olygu bod ymgeisydd arall yn cael ei ddewis o blith yr holl ymgeiswyr.
Y Wobr
9. Bydd y wobr yn cael ei chyhoeddi ar yr awyr a gall gynnwys set radio DAB neu seinydd clyfar. Gwrandewch yn ofalus i gael gwybodaeth benodol am y wobr.
10. Nid oes dim opsiwn ariannol yn lle’r wobr, ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn cadw’r hawl i gyfnewid neu ategu at unrhyw elfen o’r wobr. Nid yw’r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am unrhyw elfen neu newid i’r wobr sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
11. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am unrhyw ffioedd, treuliau na chostau eraill. Nid oes unrhyw opsiwn ariannol yn lle’r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau.
12. Nid oes modd cyfnewid y gwobrau, nid oes modd eu trosglwyddo, ac ni ellir eu cyfnewid am arian parod na gwobrau eraill.
13. Ni all yr enillydd gopïo na dosbarthu’r wobr na chopïau ohoni. Ni all yr enillydd ddefnyddio nac atgynhyrchu unrhyw enwau, brandio na logos rhaglen sydd ar y wobr neu sy’n gysylltiedig â’r wobr mewn unrhyw ffordd. Ni chaiff yr enillydd wneud unrhyw beth gyda’r wobr a allai ddwyn anfri ar y ÃÛÑ¿´«Ã½.
14. Lle bo angen at ddibenion cyflawni'r wobr, gall y ÃÛÑ¿´«Ã½ rannu manylion yr enillydd â darparwr dynodedig y wobr.
Cyffredinol
15. Rhaid i bob ymgeisydd gytuno i gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd ar ôl y gystadleuaeth, os bydd angen.
16. Bydd enwau a lleoliad bras yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.
17. Mae penderfyniad y ÃÛÑ¿´«Ã½ o ran ymgeiswyr, enillwyr a gwobrau a ddyfernir yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu’n digwydd mewn perthynas â’r gystadleuaeth.
18. Ni all y ÃÛÑ¿´«Ã½, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol, nac unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, rhwydwaith, system neu fel arall a all arwain at beidio â chofrestru unrhyw gais yn iawn. Nid yw prawf o anfon yn brawf o dderbyn.
19. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y ÃÛÑ¿´«Ã½ yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.
20. Ystyrir bod ymgeiswyr wedi derbyn y Telerau ac Amodau hyn ac yn cytuno i gael eu rhwymo ganddynt wrth gofrestru.
21. Ceidw’r ÃÛÑ¿´«Ã½ yr hawl i wneud y canlynol:
- (i) diwygio’r telerau ac amodau hyn gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amseroedd agor a chau'r gystadleuaeth;
- (ii) anghymhwyso unrhyw gystadleuydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd neu sydd wedi dwyn anfri ar y ÃÛÑ¿´«Ã½;
- (iii) pan fo’n berthnasol, anghymhwyso cystadleuydd neu enillydd, tynnu unrhyw wobr yn ôl, neu gynnig gwobr arall yn ei lle, os bydd unrhyw gystadleuydd, enillydd neu eu gwestai ar unrhyw adeg yn ymddwyn yn amhriodol neu'n beryglus (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i fod dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithiol neu sylweddau cemegol, neu achosi niwsans) cyn iddo ddod ar yr awyr neu pan mae ar yr awyr, pan mae’n mynychu adeiladau’r ÃÛÑ¿´«Ã½ neu os yw’r wobr yn cynnwys mynd i ddigwyddiad, cael ei wahardd o’r digwyddiad hwnnw;
- (iv) gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion mynediad ychwanegol petai’r wobr a gynigir yn gofyn am gyfyngiadau neu ofynion o’r fath (gan gynnwys tocynnau ar gyfer digwyddiadau ag isafswm oedran neu ofynion mynediad eraill, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) a
- (v) canslo'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os gwêl y ÃÛÑ¿´«Ã½ fod angen gwneud hynny, neu os bydd amgylchiadau'n codi sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.
22. Hyrwyddwr y gystadleuaeth hon yw’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.
23. Mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â .
24. Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.