Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Bugail Dartmoor ac America

Sgyrsiau amrywiol yn cynnwys hanes y lleidr David Davies, neu Bugail Dartmoor. Dei hears the remarkable story of a petty thief who spent most of his life behind bars.

Fel rhan o'r amrywiaeth arferol, mae Einion Thomas yn ymuno â Dei i roi hanes lleidr o'r canolbarth a dreuliodd ran helaeth o'i fywyd tan glo am fân droseddau. Roedd David Davies yn cael ei adnabod ar y pryd fel Bugail Dartmoor.

Mae 'na ddwy sgwrs yn ymwneud ag America. Mae'r nofel Aderyn Prin gan Elen Wyn yn stori am Gymraes o Waunfawr sy'n gweithio fel swyddog i'r FBI, a'r Athro Peredur Lynch sy'n sôn am y cysylltiad rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Harvard.

Un arall o staff academaidd Prifysgol Bangor sy'n ymuno â Dei ydi Gwilym Owen, a hynny i drafod achos llys yn 1862 pan gafodd Cyfraith Hywel o'r Oesoedd Canol ei chrybwyll.

Pwysigrwydd trenau bach y tu ôl i'r ffosydd yn y Rhyfel Mawr sy'n cael sylw Dr David Gwyn, ac mae 'na ddilyniant i'r sgwrs ddiweddar gyda Carol Byrne Jones am stori asgwrn pen llo. Mae Carol ei hun i'w chlywed eto, yn ogystal â Beryl Jones a Julia Morgan.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 29 Tach 2016 18:00

Darllediadau

  • Sul 27 Tach 2016 17:30
  • Maw 29 Tach 2016 18:00

Podlediad