Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pantywennol

Ymunwch â Dei ar drywydd Bwgan Pantywennol yng nghwmni'r nofelydd Ruth Richards. Dei chats to Ruth Richards about Pantywennol, her historical novel based on a true story.

Ymunwch â Dei ar drywydd Bwgan Pantywennol yng nghwmni Ruth Richards. Daeth Pantywennol, nofel Ruth sy'n seiliedig ar stori wir a gadwyd yn fyw ar lafar gwlad, yn agos at ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau. Mae Alun Jones, un o olygyddion Y Lolfa, hefyd yn y cwmni i drafod y gyfrol.

Llyfr arall sy'n cael sylw ydi The John Williams Story gan Gwynfor Williams. Mae'r awdur yn ymuno â Dei i drafod ei ddiddordeb yn hanes gwaith haearn Rhuddlan, a sut yr aeth ati i ymchwilio.

Yr Athro Gareth Wyn Jones sy'n sôn am y diweddar Athro W Charles Evans, ac mae Elen Simpson yn croesawu Dei i archifdy Prifysgol Bangor i weld casgliad o bapurau'n ynwneud â hanes teulu ac Ystâd y Penrhyn.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 6 Rhag 2016 18:00

Darllediadau

  • Sul 4 Rhag 2016 17:30
  • Maw 6 Rhag 2016 18:00

Podlediad