Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Nia Roberts yn edrych ar y cysylltiad rhwng cefn gwlad a'r celfyddydau. A look at the connection between the countryside and the arts.

Nia Roberts â'i gwesteion yn cymryd cip ar y cysylltiad rhwng cefn gwlad a'r celfyddydau.

Mae llenyddiaeth Gymraeg yn frith o gyfeiriadau at gefn gwlad, ac mae Bethan Mair a Jon Gower yn dewis rhai o'u ffefrynnau nhw. A fyddai Islwyn Ffowc Elis wedi gosod Cysgod y Cryman yng nghefn gwlad heddiw?

Er bod Eleri Mills wedi treulio cyfnodau yn byw mewn llefydd eraill, mae'r artist a gafodd ei magu ar fferm ger Llangadfan yn dychwelyd i fro ei magwraeth bob tro. Mae'n trafod sut mae ei chynefin yn dylanwadu ar ei gwaith.

Sut oedd byd natur yn dylanwadu ar y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards? Y cerddor Geraint Lewis sy'n trafod, ac yn rhoi hanes annisgwyl cylch caneuon Y Tymhorau.

Ar ôl cael ei fagu ym myd cwmnïau theatr cefn gwlad, mae Sion Pennant bellach yn gyfrifol am ddau yn ardal Aberystwyth. Mae'n sôn wrth Nia am bwysigrwydd cwmnïau o'r fath.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Tach 2017 17:00

Darllediadau

  • Mer 29 Maw 2017 12:30
  • Sul 2 Ebr 2017 17:00
  • Sul 26 Tach 2017 17:00