
Wil Rowlands
Sgwrs gyda'r artist Wil Rowlands, a chip ar fywyd y cyfansoddwr Scott Joplin. Nia visits artist Wil Rowlands' workshop.
Mae Lifted by Beauty: Adventures in Dreaming yn gynhyrchiad gan yr artist Mark Storor ar gyfer National Theatre Wales, yn mynd â'r gynulleidfa am dro o gwmpas tre'r Rhyl gan bortreadu straeon trigolion yr ardal. Catrin Rogers o NTW a'r actor Lloyd Meredith sy'n rhoi hanes y cynhyrchiad, ac Aled Lewis Evans yn ei adolygu.
Ddylai artistiaid ddim aros yn llonydd a bodloni ar un arddull neu un ffordd o weithio, yn ôl yr arlunydd Wil Rowlands. Mae Nia'n ymweld â'i stiwdio yn Sir Fôn i gael gwybod rhagor am ei waith.
Ac mae Annette Bryn Parri yn rhoi cip i ni ar fywyd a gwaith y cyfansoddwr Scott Joplin. Bu farw Brenin Ragtime gan mlynedd yn ôl. Ond beth yw ragtime, a beth yw apêl y gerddoriaeth?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Mer 5 Ebr 2017 12:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 9 Ebr 2017 17:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru