
1950au
Camu yn ôl i'r 1950au mae John Hardy ar yr ymweliad hwn gydag archif Radio Cymru. John Hardy focuses on the 1950s on this visit to the Radio Cymru archive.
Camu yn ôl i'r 1950au mae John Hardy ar yr ymweliad hwn ag archif Radio Cymru.
Cawn glywed y sylwebaeth rygbi gyntaf yn y Gymraeg, a hynny ar gêm rhwng Gorseinon a Phontarddulais yn 1952.
Sgwrsio am boblogrwydd cerddoriaeth sgiffl mae Neville Hughes o Hogia Llandegai, wrth i'r actores Olive Michael hel atgofion am ddramâu radio fel Teulu'r Mans.
Sôn am gael ei anfon i Gorea yn filwr ifanc mae Meirion Davies, a'r profiad o gael ei saethu. Yn ffodus iawn, llwyddodd i ddod yn ôl i ddweud ei hanes.
Emrys Roberts sy'n trafod bod yn llygad-dyst i'r crogi olaf yng Ngharchar Caerdydd yn 1952, ac mae gan Don Llywelyn stori trychineb awyr Tresigin ym Mro Morgannwg.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 27 Awst 2017 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Mer 30 Awst 2017 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru