Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Addysg

John Hardy gydag archif, atgof a chân yn ymwneud ag addysg. Education is John Hardy's theme on this visit to the Radio Cymru archive.

John Hardy gydag archif, atgof a chân yn ymwneud ag addysg.

Mae Beti George yn mynd yn ôl i Ysgol Dyffryn Teifi, a Norah Isaac yn cofio ei dyddiau ysgol ym Maesteg.

Cawn glywed profiadau David Roberts o Fetws Gwerful Goch ar ddiwedd y 19eg ganrif, pan oedd pethau'n wahanol iawn o gymharu â heddiw, a hanes David Evans o Lanrwst yn Rhiwddolion ger Betws-y-Coed. Gutyn Arfon, neu Griffith Hugh Jones, oedd y prifathro.

Hefyd, yr Athro Thomas Parry yn siarad yn 1964 am Syr John Morris-Jones, a fyddai wedi bod yn gant oed yn y flwyddyn honno.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 6 Medi 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 3 Medi 2017 13:00
  • Mer 6 Medi 2017 18:00