
20/12/2017
Y newyddion diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones a Gwenllian Grigg. The latest news in Wales and beyond with Dylan Jones and Gwenllian Grigg.
Pryderon am nifer y plant a phobl ifanc sy'n cysylltu ag elusennau ynglŷn â hunanladdiad- mae Gwenllian Glyn wedi bod yn siarad â theulu sydd wedi eu heffeithio.
Mae Sara Gibson wedi bod mewn caffi arbennig yn Aberystwyth, sy'n casglu bwyd o siopau yn y dref, a'i ddosbarthu i wahanol elusennau a chymdeithasau gwirfoddol.
Mae angen gwneud gwelliannau ar frys i wasanaethau gofal dementia arbenigol yng Ngheredigion yn ôl rhai o deuluoedd yr ardal.
Fe fydd Swyddfa Bost Glynceiriog ger y Waun yn agor yn swyddogol mewn lleoliad newydd yn y pentre' heddiw. Perchennog y siop, Tegid Davies, sydd yn sôn mwy.
Fel un sydd wedi gweithio ar rai o ffilmiau mwyaf Hollywood, mae Siân Grigg yn hel atgofion o'i chyfnod yn gweithio ar ffilm Titanic, 20 mlynedd ers iddi ymddangos ar y sgrin am y tro cyntaf.
'Gwledd i'r llygaid', murlun hanner can troedfedd o rai o chwedlau enwocaf Cymru, yn cael ei ddadorchuddio yng Nghanol Caerdydd. Branwen Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru sy'n sôn mwy.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Mer 20 Rhag 2017 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru