
21/12/2017
Y newyddion diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt gyda Dylan Jones ac Alun Thomas. The latest news in Wales and beyond with Dylan Jones and Alun Thomas.
Damian Green yn cael ei ddiswyddo; Syr Deian Hopkin sy'n trafod y goblygiadau.
Ansicrwydd yn y Fenni ynglŷn â chynlluniau i ehangu addysg Gymraeg; Elin Angharad yn clywed am bryderon y bydd plant yn cael eu haddysg mewn ffrwd Gymraeg.
Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i sicrhau bod athrawon yn barod ar gyfer y newidiadau i'r cwricwlwm. Rebecca Williams o undeb UCAC sy'n trafod.
Wrth i bobl Catalwnia ethol llywodraeth newydd, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones sy'n dadansoddi'r sefyllfa wleidyddol yn y rhanbarth.
Y trefniadau yn Ninbych i ddod â phobl at ei gilydd i fwynhau bwyd a chwmni dros y Nadolig. Mae Dylan Jones yn holi'r bobl sydd ynghlwm â'r cynlluniau dros yr ŵyl.
Llinell ffôn arbennig dros gyfnod y Nadolig i helpu pobl sy'n delio â galar - Mae Gwenllian Grigg yn clywed am ddarpariaeth yr elusen Cruse.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 21 Rhag 2017 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru