Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyn perfformio cerddoriaeth Miles Davis, mae'r trympedwr Tomos Williams yn edrych ymlaen. Trumpeter Tomos Williams looks forward to playing the music of Miles Davis.

Cyn mynd ar daith 7 Steps, sy'n dod â cherddorion o Gymru ac Iwerddon ynghyd i berfformio cerddoriaeth Miles Davis, mae'r trympedwr Tomos Williams yn edrych ymlaen, ac yn egluro pam y mae Davis yn gymaint o arwr iddo.

Sylw hefyd i sioe gerdd The Last Five Years, a sgwrs gyda'r cyfarwyddwr Angharad Lee am sialens llwyfannu sioe sy'n gwau dawns, cerddoriaeth, a'r Iaith Arwyddion Brydeinig.

Mae 'na ymweliad ag arddangosfa gelf Artes Mundi 8 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a Jane Aaron sy'n trafod gwaith Llyfrau Cantre'r Gwaelod, sy'n arbenigo mewn cyhoeddi clasuron Eingl-Gymreig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 18 Tach 2018 17:00

Darllediadau

  • Mer 14 Tach 2018 12:30
  • Sul 18 Tach 2018 17:00