Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Celfyddyd Gain Llanelli

Ymweliad â thref Llanelli, i ddysgu am gysylltiadau Tre'r Sosban â chelfyddyd gain. A look at Llanelli's connections with fine art.

Ymweliad â thref Llanelli, i ddysgu am gysylltiadau Tre'r Sosban â chelfyddyd gain.

Mae Nia yn cael cwmni'r awdur lleol Alun Gibbard, er mwyn cael gwibdaith o amgylch rhai o'r lleoliadau sy'n arwoddocaol yn hanes datblygiad celfyddyd gain yn Llanelli, gan gynnwys man geni'r artist llwyddiannus James Dickson Innes, a lleoliad gwreiddiol Ysgol Gelf Llanelli.

Draw yng Nghastell y Strade, mae'n cwrdd â pherchenog presennol y tŷ ysblennydd sy'n llawn gwaith celf. Mae Patrick Mansel Lewis yn adrodd hanes ei hen dad-cu, Charles Mansel, a oedd yn artist a chasglwr celf.

Hefyd, cipolwg ar waith yr artist Peter Spriggs, sy'n ddarlithydd celf yng Ngholeg Sir Gâr. Sut mae'r dref a'i hanes wedi dylanwadu ar ei waith?

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 28 Ebr 2019 17:00

Darllediadau

  • Mer 21 Tach 2018 12:30
  • Sul 25 Tach 2018 17:00
  • Mer 24 Ebr 2019 12:30
  • Sul 28 Ebr 2019 17:00