Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

03/02/2019

John Roberts a'i westeion yn trafod Asia Bibi, sut beth yw bod yn ofalwr ifanc, a chais Wrecsam i ddod yn Dref Noddfa. John Roberts and guests discuss ethics and religion.

Ar ôl i Oruchaf Lys Pacistan gadarnhau dyfarniad dieuog yn erbyn y Cristion Asia Bibi, a oedd wedi'i chyhuddo o gabledd, mae Norah Mallik yn trafod Islam yn y wlad.

Sut beth yw bod yn ofalwr ifanc? Mae Grace Barton yn gofalu am ei thad, ac yn sôn am ei phrofiadau.

Trafod ei lyfryn ar gyfer eglwysi ac offeiriaid Esgobaeth Llandaf mae Dyfrig Lloyd. Pam 'sgrifennu Gwneud y Gymraeg yn Weladwy yn eich Eglwys, a pha gynghorion sydd ynddo?

Wrth i rai o bobl Wrecsam geisio ei gwneud yn Dref Noddfa, sy’n cynnig croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dyma holi Menna Davies a Kath Griffiths beth yw’r camau nesaf.

Sgwrs hefyd Meleri Cray, pennaeth newydd Cymdeithas y Beibl yng Nghymru.

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 3 Chwef 2019 08:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Bwrw Golwg

Darllediad

  • Sul 3 Chwef 2019 08:00

Podlediad