
10/02/2019
John Roberts a'i westeion yn trafod ymweliad hanesyddol y Pab ag Abu Dhabi, a sut i fugeilio yn sgil Brexit. John Roberts and guests discuss the Pope's historic trip to Abu Dhabi,
Aled Edwards sy'n ymuno â John Roberts i drafod ymweliad hanesyddol y Pab ag Abu Dhabi. Beth yw arwyddocâd rhyng-ffydd ac eciwmenaidd y daith?
Mae Aled hefyd yn trafod canllawiau newydd gan Cytûn, ynglŷn â sut i fugeilio yn sgil Brexit.
Ar ôl i Gymdeithas y Cymod ac CND Cymru ddatgan pryder am benderfyniad Unol Daleithiau America a Rwsia i dynnu yn ôl o gytundeb arfau niwclear yr INF, Mererid Hopwood o Gymdeithas y Cymod sy’n esbonio pam.
Sgwrsio am ei gwaith gydag ysgolion mae Eleri Trythall o elusen Trobwynt, wrth i Menna Machreth sôn am sesiynau Bocs Offer Undeb y Bedyddwyr, sy'n cefnogi gwaith cenhadol o fewn eglwysi'r Undeb.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 10 Chwef 2019 08:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.