Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.

Catrin Beard sydd wrth y llyw heddiw gan fwrw golwg ar brosiect Iaith y Nefoedd, sy’n gywaith rhwng y nofelydd Llwyd Owen a’r band poblogaidd, Yr Ods.

Hefyd mae Catrin yn ymweld â chartref yr artist Gwyn Roberts yng Nghaerdydd ac yn cael sgwrs am ei waith sydd i’w weld ar hyn o bryd ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog.

Gwenllian Ellis sy'n adolygu arddangosfa o waith yr artist Gwenllian Spink yn oriel Camberwell Space yn Llundain tra bod Cefin Roberts yn edrych ar apêl y sioe gerdd The Lion King, sydd yn dathlu 20 mlynedd yn y West End eleni.

Yn ogystal, sylw i lyfrau plant gydag Arwel Jones o’r Cyngor Llyfrau, a Huw a Luned Aaron sydd newydd sefydlu Gwasg Broga, gwasg sy’n arbenigo mewn cyhoeddi llyfrau plant.

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 25 Tach 2019 18:00

Darllediad

  • Llun 25 Tach 2019 18:00